Cato yr Hynaf
Cato yr Hynaf | |
---|---|
Ffugenw | Censorius |
Ganwyd | c. 234 CC Tusculum |
Bu farw | 149 CC Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llenor, hanesydd yr hen Rufain, economegydd, bardd, gwleidydd hynafol, Rhufeinig, athronydd, areithydd, hanesydd, milwr |
Swydd | Censor, Praetor, quaestor, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Adnabyddus am | De Agri Cultura, Origines |
Tad | Unknown |
Mam | Unknown |
Priod | Licinia, Salonia |
Plant | Marcus Porcius Cato Licinianus, Marcus Porcius Cato Salonianus |
Perthnasau | Cato yr Ieuengaf, Gaius Porcius Cato |
Llinach | Porcii Catones |
Gwleidydd ac awdur Rhufeinig oedd Marcus Porcius Cato Censorius, a elwir yn Cato yr Hynaf (i'w wahaniaethu oddi wrth Marcus Porcius Cato yr Ieuengaf) neu Cato y Censor (234 CC - 149 CC).
Ganed Cato yn Tusculum; roedd ei dad yn perthyn i ddosbarth cymdeithasol y marchogion (eques). Ymunodd a'r fyddin yn 217 CC, a daeth yn Dribwn Milwrol yn 214 CC. Yn 204 CC, etholwyd ef i swydd Quaestor, yna yn 199 CC yn Aedile. Yn 198, etholwyd ef i swydd Praetor cyn dod yn llywodraethwr Sardinia. Etholwyd ef yn Gonswl yn 195 CC. Yn ystod ei gyfnod fel conswl. bu'n arwain byddin yn erbyn gwrthryfelwyr yn Sbaen. Yn 191 CC, bu'n ymladd yn y rhyfel yn erbyn Antiochus III. Yn 184 CC, etholwyd ef i swydd Censor.
Priododd ddwywaith, a chafodd ddau fab, Marcus Porcius Cato Licinianus a Marcus Porcius Cato Salonianus. Roedd yn ddylanwadol iawn yn Senedd Rhufain. Dechreuodd ymgyrch i sicrhau fod dinas Carthago yn cael ei dinistrio, gan ddiweddu pob araith, ar unthyw bwnc, gyda'r geiriau Ceterum censeo, Carthaginem esse delendam (Heblaw hynny, rwy'n credu fod rhaid dinistrio Carthago). Yn 149 CC, yn fuan wedi marwolaeth Cato, aeth Carthago i ryfel yn erbyn Numidia heb ganiatâd Rhufain. Cyhoeddodd Rhufain ryfel ar Carthago, a gyrrwyd byddin Rufeinig dan Scipio Aemilianus yn ei herbyn. Dinistrwyd Carthago ar ddiwedd y rhyfel.