C.P.D. Glyn Ebwy
Enw llawn | Ebbw Vale Football Club | |
---|---|---|
Llysenwau | The Cowboys | |
Sefydlwyd | 1888, ail-sefydlwyd 1907 | |
Daeth i ben | 1998 | |
Maes | Parc Eugene Cross Glyn Ebwy (sy'n dal: 8,000) | |
|
Roedd Clwb Pêd-droed Glyn Ebwy (Ebbw Vale FC) yn dîm pêl-droed yn nhref Glyn Ebwy, Blaenau Gwent.
Hanes
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Glyn Ebwy yn nhymor hanesyddol gyntaf Cynghrair Genedlaethol Cymru (a enwir nawr yn Uwch Gynghrair Cymru) yn 1992–93. Gorffennodd y clwb yn 11eg y tymor hwnnw ond daethant yn 3ydd yn 1996-97 ac 1997-98. Roedd y brodyr David Giles (cyn chwaraer ryngwladol i Gymru) a Paul yn rhan anatod o'r llwyddiant hynny a'r Rheolwr oedd John Lewis.
Roedd y clwb yn chwarae ar faes Eugene Cross yn y dref.
Chwaraeodd y Clwb yn Ewrop sawl gwaith ond diarddelwyd hwy o'r Gynghrair cyn dechrau tymor 1998–99 gan ddod i ben fel busnes yn fuan wedyn. Eu gêm ddiwethaf oedd yn erbyn Kongsvinger o Norwy yng nghystadleuaeth 1998 Cwpan Intertoto UEFA.
Clwb Newydd
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Clwb newydd, C.P.D. Tref Glyn Ebwy (Glyn Ebbw Town FC) yn 2008 ond daeth hwnnw i ben yn haf 2018 oherwydd diffyg arian.[1] er cedwir cyfrif trydar @EbbwValeFC yn enw'r clwb.[2]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Southern Football League (Lloegr)
[golygu | golygu cod]Pencampwyr (1): 1922–23 Pencampwyr Rhan Cymru (2): 1921–22, 1922–23
Pencampwyr (2): 1952–53, 1987–88
Enillwyr (1): 1925–26
Ail (1): 1996
Cwpan Cynghrair Cymru (Y De)
[golygu | golygu cod]Enillwyr (3): 1927, 1956, 1957 Ail (1): 1929
Aelodau Sefydlol o: Cynghrair Hŷn De Cymru (South Wales Senior League); Cynghrair Cwm Rhymni (Rhymney Valley League) ac Uwch Gynghrair Cymru
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Gwrthwynebwyr | Agregâd | Cymal 1 | Cymal 2 |
---|---|---|---|---|---|---|
1997 | Cwpan Intertoto UEFA | Cymal Grŵp | Grazer AK | 0:0 (C) | ||
NK Hrvatski Dragovoljac | 0:4 (OC) | |||||
SC Bastia | 1:2 (C) | |||||
Silkeborg IF | 1:6 (OC) | |||||
1998 | Cwpan Intertoto UEFA | Rownd 1 | Kongsvinger | 1:9 | 1:6 (C) | 0:3 (OC) |