Cân y Toreador
Poster 1939 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Rhan o | Carmen |
Iaith | Ffrangeg |
Libretydd | Henri Meilhac, Ludovic Halévy |
Cyfansoddwr | Georges Bizet |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cân y Toreador yw'r enw poblogaidd ar yr aria "Votre toast, je peux vous le rendre" ("Eich llwncdestun, rwy'n dychwelyd atoch"), o'r opera Carmen, a gyfansoddwyd gan Georges Bizet [1] gyda geiriau gan Henri Meilhac a Ludovic Halévy. Mae'n cael ei ganu gan yr ymladdwr teirw (Ffrangeg: toréador) Escamillo wrth iddo ymddangos yn yr ail act a disgrifio amrywiol sefyllfaoedd yn y talwrn ymladd teirw, bloeddio'r torfeydd a'r enwogrwydd sy'n dod gyda buddugoliaeth. Mae'r cytgan, Toréador, en gard, yn ffurfio rhan ganol yr agorawd i act gyntaf Carmen.[2]
Y Gerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Mae gan y gân bas-bariton ystod leisiol o B♭ 2 i F4 a tessitura o C3 i E ♭ 4. Yr arwydd amser yw 4/4, y cywair yw F leiaf gyda'r gytgan yn F fwyaf. Yr arwydd tempo yw allegro molto moderato, =108.
Mae'r gerddorfa'n cyflwyno'r adran felodaidd gyntaf, sy'n fywiog ac yn sionc. Fel Habanera Carmen, mae wedi’i adeiladu ar raddfa gromatig ddisgynnol wrth i Escamillo ddisgrifio ei brofiadau yn y talwrn ymladd teirw. Yn y gytgan sy'n canmol y toreador, mae'r gerddoriaeth yn troi'n ddathliadol ac yn hyderus ei chymeriad
Mae Frasquita, Mercédès, Carmen, Moralès, Zuniga a'r corws yn ymuno i ailadrodd y cytgan.
Libreto
[golygu | golygu cod] Gwreiddiol |
Cyfieithiad llythrenol |
Cyfieithiad telynegol |
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Phillip Rhodes yn canu Cân y Toreador ym mherfformiad tymor yr Hydref 2019 Opera Genedlaethol Cymru (YouTube)
- Casgliad o adnoddau Cymraeg am y gân gan gynnwys recordiad MP3, i'w lawrlwytho, Y libreto Ffrangeg a Chymraeg a'r sgôr (Opera Genedlaethol Cymru)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Story Of Georges Bizet's Carmen". Classic FM. Cyrchwyd 2020-09-11.
- ↑ "Habanera' and 'Toreador Song' from 'Carmen' by Georges Bizet". CBBC. Cyrchwyd 11 Medi 2020.
- ↑ Cân – Sing OGC Cân y Toreador adalwyd 11 Medi 2020