Baner Gogledd Corea
Baner Gogledd Corea yw baner genedlaethol Gogledd Corea (Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea). Fe'i mabwysiadwyd ar 10 Gorffennaf 1948, deufis cyn datgan Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea.[1] Tra bod baner De Corea yn barhâd o'r faner genedlaethol Corea a fabwysiadwyd yn 1882, mae baner Gogledd Corea yn un newydd. Gelwir yn Ramhongsaek Konghwagukgi (Corëeg: 람홍색공화국기; llythrennol "baner lliw glas a choch y weriniaeth")
Hanes
[golygu | golygu cod]Mabwysiadwyd y faner gweriniaeth unbeniaethol gomiwnyddol Gogledd Corea yn 1948. Tan hynny, roedd baner De Corea mewn grym yng Ngogledd Corea.[2]. Rhanwyd y wlad yn ddwy wedi Rhyfel Corea waedlyd rhwng lluoedd y Gogledd Comiwnyddol a gefnogwyd gan yr Undeb Sofietaidd a Tsieina Gomiwnyddol yn erbyn lluoedd cyfalafol a democrataidd a arweiniwyd gan yr UDA.
Roedd comwinyddion Corea o blaid cadw'r faner genedlaethol draddodiadol ond teimlad yr Uwch Gadfridog, Nikolai Georgiyevich Lebedev (Rwsia) oedd bod y Taegukgi oedd yn cynnwys syniadaeth ac athroniaeth Tsieiniaidd yn rhy debyg i ofergoeledd Canol Oesol. Yn dilyn pwysau o du Mosgo cytunodd y Coreaid ac Is-lywydd y Cynulliad Comiwnyddol, yr ieithydd ac ymladdwr annibyniaeth, Kim Tu-bong, fabwysiadu baner newydd dderyniol i gomiwnyddion Rwsia. Dyluniwyd y faner newydd gan y Rwsiaid, er na wyddir pwy oedd y dylunydd ei hun. Roedd y faner newydd mor ddi-fflach a generig gomiwnyddol â baneri gweriniaethau trefedigaethol oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd megis baneri Sofietaidd Estonia neu Belarws. Nes ei fabwysiadu'n ffurfiol yn 1948 daliau comiwnyddion Corea i arddel y Taegukgi draddodiadol.[3][4]
Datgelwyd y faner newydd, ynghyd â chyfansoddiad drafft y wladwriaeth gomiwnyddol ar 1 Mai 1948.[5] Ar 10 Gorffennaf 1948 cymeradwyyd y faner gan Gynulliad dros-dro Pobl Gogledd Corea. Ysgriennodd Kim Tu-bong bapur yn esbonio pam y bu iddynt newid y faner, er gwaethaf ei gefnogaeth ef i'r un draddodiadol a dymuniadau eraill hefyd. Yn 1957 gwaredwyd ar Kim Tu-bong gan Kim arall, Kim Il-sung a dynodd gyfeiriadaeth i'r Taegukgi allan o unrhyw destun a ystumiodd ffotograffau er mwyn dyrchafu ei hun fel tad y genedl. Mae cyfeiriadau cyfredol yng Ngogledd Corea yn nodi mai Kim Il-sung ei hun ddyluniodd y faner.[3] Ni wyddir beth oedd ffawd Kim Tu-bong.
Symbolaeth
[golygu | golygu cod]Mae baner Gogledd Corea yn dilyn confensiwn ac aestheteg sawl baner gwlad gomiwnyddol oedd yn bodoli yng nghnnol yr 20g gan ddilyn nifer o nodweddion Baner yr Undeb Sofietaidd.
- Mae'r seren goch, sy'n symbol cyffredinol o gomiwnyddiaeth, yn parhau i gael ei defnyddio er, ers mabwysiadu'r faner, mae athroniaeth Juxism-Leninism wedi'i disodli gan yr ideoleg Juche fel yr unig athrawiaeth sy'n arwain y wladwriaeth, gan gyfeirio at gomiwnyddiaeth wedi bod yn raddol wedi'i dynnu o gyfansoddiad a dogfennau cyfreithiol Gogledd Corea.[6] Fodd bynnag, er gwaethaf dileu'r cyfeiriadau hyn, mae Gogledd Korea yn parhau i fod yn wlad gomiwnyddol Stalinaidd gydag economi wedi'i chynllunio. Am y rheswm hwn mae'r seren goch yn cael ei chadw.
- Mae'r band coch yn mynegi'r traddodiadau chwyldroadol.
- Mae'r ddau fand glas yn cynrychioli sofraniaeth, heddwch a chyfeillgarwch.
- Mae bandiau gwyn yn symbol o burdeb.
Yn ôl Cymdeithas Cyfeillgarwch Corea, mae'r seren goch yn symbol o draddodiadau chwyldroadol, mae'r streipen goch yn cynrychioli gwladgarwch a phenderfyniad pobl Corea. Mae'r streipiau gwyn yn symbol o'r genedl unedig a'i diwylliant. Mae'r bandiau glas yn cynrychioli undod, cymdeithasu ac yn olaf help i'r ddwy ochr.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Baner Gogledd Corea, 1946-1948
-
Baner Plaid Gweithwyr Corea
-
Baner Plaid Gweithwyr Corea, fersiwn fertigol
-
Baner y Prif Comandant
-
Baner y Prif Comadant, ers 2002)
-
Bner Byddin Poblogaidd Corea
-
Baner Llu Tiriogaethol Poblogaidd Corea
-
Baner Llynges Boblogaidd Corea
-
Baner y Llynges
-
Baner Morwrol
-
Baner Awyrlu Boblogaidd Corea
-
Baner Sosialwyr Ifanc Kim Il Sung]
-
Baner yn cael ei defnyddio yn ystod sioe dorfol
-
Baner Gogledd Corea
-
Baner Gogledd Corea yn cael ei chwifio'n fertigol
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni
[golygu | golygu cod]- https://www.fotw.info/flags/kp.html Baner Gogledd Corea ar 'Flags of the World'
- http://www.ahnstkd.com/korean.htm Archifwyd 2004-08-12 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.britannica.com/topic/flag-of-North-Korea
- ↑ Nodyn:Lien web
- ↑ 3.0 3.1 https://www.dailynk.com/english/kim-tu-bong-and-the-flag-of-great/
- ↑ North Korea: A Guide to Economic and Political Developments By Ian Jeffries
- ↑ https://books.google.co.uk/books?id=h9FFVgu-Ff0C&pg=PA439&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false
- ↑ http://leonidpetrov.wordpress.com/2009/10/12/dprk-has-quietly-amended-its-constitution/