Attila the Stockbroker
Attila the Stockbroker | |
---|---|
Ganwyd | John Baine 21 Hydref 1957 Southwick |
Label recordio | Cherry Red |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, canwr-gyfansoddwr, mandolinydd |
Arddull | pync-roc |
Gwefan | http://www.attilathestockbroker.com |
Mae Attila the Stockbroker yn enw barddol John Baine, un o feirdd perfformio iaith Saesneg mwyaf gweithgar. Yn enwog am fod yn un o sylfaenwyr 'barddoniaeth rantio' yn y 1980au.[1]
Mae Attila wedi perfformio dros 3,300 o gyngherddau, wedi cyhoeddi wyth cyfrol o gerddi ac wedi rhyddhau dros 40 o albymau a senglau.[2]
Bu'n gefnogwr brwd i'r grwpiau Cymraeg Anhrefn a Datblygu gan drefnu'r gigs cyntaf i grwpiau Cymraeg yn Llundain ym 1986.[3][4]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Dechreuodd John Bain perfformio fel Attila the Stockbroker yn 1980 gan berfformio rhwng grwpiau pync. Roedd ei steil wedi'i ddylanwadu gan John Cooper Clarke a The Clash. Recordiodd sesiwn i raglen John Peel ar BBC Radio 1 ym 1982 gan recordio ei record hir cyntaf yn yr un flwyddyn.
Daeth yr enw Attila the Stockbroker o'r ffaith roedd o'n arfer gweithio am gyfnod fel clerc gyda chwmni ariannol yn Ninas Llundain.[5]
Gyda beirdd fel Porky the Poet (Phill Jupitus) a Seething Wells (Steven Wells) datblygwyd sîn barddoniaeth rantio (Ranting Verse) - y beirdd yn aml yn gweiddi eu cerddi'n gyflym iawn. Gyda hiwmor, eironi a rhegfeydd roedd llawer o'r cerddi'n ymosod a'r llywodraeth Margaret Thatcher a'r wasg boblogaidd asgell-dde fel The Sun.
Mae Attila the Stockbroker wedi perfformio ymhob Wŷl Glastonbury ers 1983. Mae hefyd wedi perfformio ar draws y byd yn cynnwys yr hen DDR, Albania, Unol Daleithiau a Seland Newydd. Ym 1994 Ymunodd â'r band 'Barnstormer' sydd yn cyfuno cerddoriaeth pync gyda cherddoriaeth ganol-oesol.
Yn 2010 cyhoeddodd The Long Goodbye fel teyrnged i'w fam a fu'n dioddef o glefyd Alzheimer a'i lys dad. Darllenwyd y gerdd ar raglen Women's Hour ar BBC Radio 4 y flwyddyn ganlynol.
Yn gefnogwr clwb pêl-droed Brighton & Hove Albion mae Attila wedi arwain y frwydr ar gyfer stadiwm newydd i'r clwb wedi i ddatblygwyr eiddo prynu eu hen stadiwm. Mae Attilla hefyd wedi bod y llais ar system uchelseinyddion o flaen gemau'r clwb.[6]
Casgliadau cerddi
[golygu | golygu cod]- Cautionary tales for Dead Commuters (gyda Seething Wells), 1986
- Scornflakes, 1992
- The Rat-Tailed Maggot & Other Poems, 1998
- Goldstone Ghosts, 2001
- My Poetic Licence, 2008
- The Long Goodbye (poems for my mother and stepfather), 2010
- UK Gin Dependence Party and Other Peculiarities, 2014
- Undaunted, 2017
Hunangofiant
[golygu | golygu cod]- Arguments Yard (35 years of Ranting Verse and Thrash Mandola) 2015
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Unigol
[golygu | golygu cod]- 1981 Phasing Out Capitalism caset
- 1982 Rough, Raw and Ranting EP gyda Seething Wells
- 1982 Cocktails EP
- 1983 Ranting at the Nation LP
- 1984 Sawdust and Empire LP
- 1984 Radio Rap! EP
- 1984 Livingstone Rap! EP
- 1987 Libyan Students from Hell! LP
- 1988 Scornflakes LP/caset
- 1990 (Canada) Live at the Rivoli LP/caset
- 1991 Donkey's Years CD/LP/caset
- 1991 1991 Cheryl - a Rock Opera - gyda John Otway
- 1992 (Germany) This Is Free Europe CD/LP
- 1993 (Australia) 668-Neighbour of the Beast CD/caset
- 1993 (Germany) Live auf St.Pauli CD
- 1993 Attila the Stockbroker's Greatest Hits caset
- 1999 Poems Ancient & Modern CD
- 1999 The Pen & The Sword CD
- 2003 Live in Belfast
- 2005 Tom Hark (We Want Falmer) EP - gyda Seagulls Ska
- 2007 Live In Norway
- 2008 Spirit of the Age
- 2010 Disestablished 1980
- 2012 The Long Goodbye / Never Too Late
- 2015 Live At The Greys
Barnstormer
[golygu | golygu cod]- 1995 Barnstormer caset
- 1995 (Yr Almaen) Sarajevo EP
- 1996 The Siege of Shoreham CD/cass
- 1998 Live in Hamburg caset
- 1999 (Yr Almaen) The Siege of Shoreham CD a LP
- 2000 Just One Life
- 2004 Zero Tolerance
- 2004 "Baghdad Ska" - single gyda Bomb Factory
- 2012 Bankers & Looters CD
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Strong, Martin C. (2003) The Great Indie Discography, Canongate, ISBN 1-84195-335-0, p. 208
- ↑ "Discography". Attila the Stockbroker. 9 Ionawr 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 May 2013. Cyrchwyd 2013-06-17. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ http://www.datblygu.com/comiwnydd-ola-ewrop-i-fod-yn-y-morning-star/
- ↑ 'Cam O'r Tywyllwch: Hunangofiant Rhys Mwyn' Y Lolfa
- ↑ 'Arguments Yard - Attila the Stockbroker' Cherry Red Books, 2015. ISBN 1909454303
- ↑ 'Arguments Yard - Attila the Stockbroker' Cherry Red Books , 2015. ISBN 1909454303