Ap ffôn
Enghraifft o'r canlynol | math o feddalwedd |
---|---|
Math | cais, mobile software, cyfrwng cyfathrebu, Rhaglen gyfrifiadurol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae cymhwysiad symudol a elwir yn ap[1] hefyd app (er mwyn osgoi dryswch gyda'r hen air wreiddiol Gymraeg, "ap") yn rhaglen gyfrifiadurol y gellir ei gosod ar ffôn clyfar, llechen neu ddyfais symudol arall. Fel arfer gellir llwytho'r rhaglenni i lawr o wefan a weithredir gan ddatblygwr y system gweithredu ffôn symudol, a'r mwyaf ohonynt yw'r Apple App Store a Google Play.[2] Mae'r gair "app" yn fyr am application yn y Saesneg wreddiol.
Nodwedd
[golygu | golygu cod]Mae llawer o apiau ar gael i'w lawrlwytho am ddim, tra bod eraill yn cael eu prynu trwy'r siop ar-lein berthnasol. Mae gan lawer o apiau ddwy fersiwn, y mae'n rhaid i chi dalu am un ohonynt, tra bod y llall yn rhad ac am ddim - ar gost hysbysebu a / neu nodweddion cyfyngedig. Mae hon yn strategaeth a ddefnyddir gan rai datblygwyr i ostwng y trothwy ar gyfer profi cais.[3]
Bydd cymwysiadau symudol sy'n cael eu datblygu fel cymwysiadau gwe (yn HTML5) yn gallu gweithio ar sawl math gwahanol o system weithredu ffôn symudol heb eu haddasu. Dim ond ar eu system weithredu eu hunain y gellir gosod apiau sydd wedi'u rhaglennu a'u llunio ar gyfer system weithredu symudol benodol (yr hyn a elwir yn "ap brodorol"), oni bai eu bod yn cael eu datblygu mewn offer rhaglennu sydd â chefnogaeth ar gyfer llunio fersiynau ar gyfer lluos o systemau mobeil.
Mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol yn cael eu gwerthu gyda sawl ap wedi'u bwndelu fel meddalwedd wedi'i osod ymlaen llaw, megis porwr gwe, cleient e-bost, calendr, rhaglen fapio, ac ap ar gyfer prynu cerddoriaeth, cyfryngau eraill, neu fwy o apiau. Gellir dileu rhai apiau sydd wedi'u gosod ymlaen llaw trwy broses ddadosod arferol, gan adael mwy o le storio ar gyfer y rhai a ddymunir. Lle nad yw'r meddalwedd yn caniatáu hyn, gellir gwreiddio rhai dyfeisiau i ddileu'r apps annymunol.
Apiau Cymraeg
[golygu | golygu cod]Ceir sawl ap Gymraeg. Maent yn cynnwys apiau ar gyfer digwyddiadau Cymraeg mawrion fel yr Eisteddfod Genedlaethol[4] ac Eisteddfod yr Urdd a Tafwyl. Mae'r rhain yn cynnwys amserlenni, mapiau, rhestr stondinau, a'r opsiwn o greu amserlen bersonol.
Ceir hefyd apiau ar gyfer cynorthwyo dysgu'r iaith Gymraeg fel cyrsiau iaith, ap Geiriadur yr Academi, ap geiriaduron[4], Geiriadur Prifysgol Cymru, ac eraill. Ceir hefyd ap byd-enwog Duolingo ar gyfer dysgu Cymraeg.[5]
Ceir apiau ar gyfer plant, a chynorthwyo addysg plant, a hefyd rhaglenni fel ap rhaglen Cyw ar S4C.[6][4]
Ceir apiau ar gyfer cynorthwy addysg myfyrwyr, a gwybodaeth cyffredinnol ar bynciau megis polisi iaith, gweithio gyda phlant, neu weithio yn y sector iechyd.[7] neu chwaraeon.[8]
Ceir hefyd apiau mwy cyffredinnol megi Y Pod (ap ar gyfer podlediadau Cymraeg) ac ap Cwtsh ar gyfer myfyrdod ac ymlacio.[4]
Dryswch enw
[golygu | golygu cod]Yn ddigon rhesymol ceir dryswch gyda'r defnydd o'r gair "ap" gan fod ganddom yn y Gymraeg air canrifoedd oed yr un fath sy'n golygu "map" ac a ddefnyddir yn enwau personol pobl, fel Rhun ap Iorwerth.
Dolenni allannol
[golygu | golygu cod]- Apple Appstore
- Google play
- ap Chwaraeon ar ar gyfer myfyrwyr chwaraeon gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol, enghraifft o ddefnydd o apiau mewn addysg Gymraeg
- ap Newyddion S4C defnyddir yr apiau gan raglenni Cymraeg
- ap Cwtsh enghraifft o ap ar gyfer hamdden a gofal personol yn y Gymraeg
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "app". Termau.Cymru. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ "App stores: number of apps in leading app stores 2019". Statista. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ "Using the Freemium Business Model - App Store". Apple Developer. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 "Eisteddfod 2022: Chwe ap Cymraeg ar gyfer eich dyfais". Llywodraeth Cymru. 2022.
- ↑ "Duolingo: Gweinidog y Gymraeg yn ceisio sicrwydd". BBC Cymru Fyw. 21 Hydref 2023.
- ↑ "Welsh Apps". Ysgol Sketty Primary. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ "Ap Gofalu trwy'r Gymraeg". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ "Ap Gofalu trwy'r Gymraeg". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 15 Awst 2024.