Neidio i'r cynnwys

Galen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: lv:Galēns
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: az:Qalen
Llinell 15: Llinell 15:
[[ar:جالينوس]]
[[ar:جالينوس]]
[[arz:جالينوس]]
[[arz:جالينوس]]
[[az:Qalen]]
[[be:Гален]]
[[be:Гален]]
[[be-x-old:Гален]]
[[be-x-old:Гален]]

Fersiwn yn ôl 17:11, 10 Mawrth 2011

Llun dychmygol o Galen gan Pierre Roche Vigneron, ca. 1865

Meddyg ac awdur Groegaidd oedd Galen o Pergamon (Groeg: Γαληνός, Galēnos; Lladin : Claudius Galenus) (130 - 200). Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn anatomeg, a chafodd ddylanwad mawr ar feddygaeth hyd y Canol Oesoedd.

Ganed ef yn ninas Pergamon (Bergama, Twrci heddiw), yn 129 neu 130 OC. Roedd o deulu cefnog; roedd ei dad, Aeulius Nicon, yn bensaer a thirfeddiannwr. Yn ugain oed, dechreuodd astudio meddygaeth yn nheml Asclepios, duw iechyd a meddygaeth. Teithiodd i Smyrna a Corinth i astudio ymhellach, yna aeth i ddinas Alexandria yn yr Aifft.

Dychwelodd i Pergamon yn 157, wedi marwolaeth ei dad. Bu’n gweithio yno fel meddyg i ysgol y gladiatoriaid am dair neu bedair blynedd, gan ennill profiad o drin clwyfau. O 162 ymlaen, bu’n byw yn Rhufain, lle ysgrifennodd nifer o lyfrau ar feddygaeth a dod yn adnabyddus fel meddyg. Daeth yn feddyg llys i’r ymerawdwr Marcus Aurelius. Dychwelodd i Pergamon rhwng 166 a169, cyn cael ei alw’n ôl i Rufain gan Commodus, mab Marcus Aurelius.