William Crawshay II
Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd William Crawshay (27 Mawrth 1788 – 4 Awst 1867), a adwaenir fel William Crawshay II i'w wahaniaethu oddi wrth ei dad, William Crawshay I.
William Crawshay II | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mawrth 1788 Pendeulwyn |
Bu farw | 4 Awst 1867 Caversham Park |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | metelegwr |
Tad | William Crawshay I |
Priod | Elizabeth Homfray, Isabella Thompson, Isabella Johnson |
Plant | Robert Thompson Crawshay, Henry Crawshay, Francis Crawshay, merch anhysbys Crawshay, William Crawshay, Isabella Crawshay, Agnes Crawshay, Amelia Crawshay, James Crawshay, Jessey Crawshay, Annette Crawshay, Louisa Crawshay |
Ganed ef ym Mhendeulwyn, Bro Morgannwg. Nid oedd gan William Crawshay yr hynaf lawr o ddiddordeb yng ngweithfeydd haearn y teulu, ac ar farwolaeth Richard Crawshay daeth y mab yn rheolwr gweithfeydd Cyfarthfa a Hirwaun. Prynodd weithfeydd haearn eraill yn Nhreforest a Fforest y Ddena. Daeth yn ffigwr dylanwadol dros ben ym mywyd diwydiannol de Cymru, a thyfodd Cyfarthfa yn fawr yn ystod ei gyfnod ef. Adwaenid ef fel "Brenin yr Haearn".
Yn 1824, adeiladodd blasdy, Castell Cyfarthfa, yr ochr draw i Afon Taf o waith haearn Cyfarthfa. Ymddeolodd i Caversham yn Lloegr yn 1847, a throsglwyddodd waith haearn Cyfarthfa i'w fab, Robert Thompson Crawshay, a'r gweithfeydd haearn eraill i ddau fab arall.
Ystyrid ef yn feistr caled gan rai, ac yr oedd gan ei weithwyr ef ran yn y protestiadau a arweiniodd at derfysgoedd 1831 ym Merthyr.