Uchelgyhuddiad
Uchelgyhuddiad (Saesneg: impeachment) yw erlyniaeth gyfreithiol gan gorff etholedig yn erbyn arweinwr llywodraeth am gyflawni trosedd gyhoeddus ddifrifol.
Yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig mae uchelgyhuddiad yn golygu bod Tŷ'r Cyffredin yn gweithredu fel erlynydd yn erbyn y prif weinidog neu weinidog uchel arall, ar ôl pasio cynigiad i'r perwyl yn y siambr, a gwrandewir yr achos yn Nhŷ'r Arglwyddi gyda'r siambr honno'n gweithredu fel barnwr.
Ar 25 Awst, 2004, cyhoeddodd Adam Price ei fod am ddechrau proses o uchelgyhuddiad yn erbyn Tony Blair, gyda chefnogaeth aelodau seneddol Plaid Cymru a'r SNP. Doedd uchelgyhuddiad ddim wedi cael ei ddefnyddio yn y DU am 150 o flynyddoedd (1806). Pe buasai'n llwyddiannus buasai'n rhaid i Blair sefyll achos yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond methiant oedd y mesur.
Yn yr Unol Daleithiau mae uchelgyhuddiad, yn erbyn yr Arlywydd fel rheol, yn cael ei gyhoeddi gan Tŷ'r Cynrychiolwyr ac yn cael ei wrando a'i farnu gan y Senedd. Yr achos enwocaf mae'n debyg oedd y bygythiad i ddwyn uchelgyhuddiad yn erbyn Richard Nixon yn ystod sgandal Watergate, a arweiniodd i'w ymddiswyddiad.