Tre Taliesin

pentref yng Ngheredigion

Pentref yn ardal Geneu'r Glyn, gogledd Ceredigion, yw Tre Taliesin.[1] Lleolir y pentref ar y briffordd A487, tua hanner ffordd rhwng Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain ac Aberystwyth i'r de. Y pentrefi agosaf yw Tal-y-bont i'r de a phentref bychan Llangynfelyn, hanner milltir i'r gorllewin. Mae Tre Taliesin ei hun yn rhan o blwyf a chymuned Llangynfelyn.

Tre Taliesin
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5044°N 3.9806°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN656914 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Tarddiad yr enw

golygu

Yr hen enw ar y lle oedd "Commins y Dafarn Fach". Oherwydd dylanwad piwritanaidd, parchuswyd yr enw i'r enw presennol, yn y 1820au. Yn y bryniau tua tri chwarter milltir i'r de-ddwyrain ceir cromlech gynhanesyddol o'r Oes Efydd a adnabyddir fel Bedd Taliesin neu Gwely Taliesin (1815).

Traddodiadau

golygu

Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â'r Taliesin chwedlonol; yn Hanes Taliesin mae Elffin ap Gwyddno yn ei ddarganfod yn hongian mewn basged yng nghored Gwyddno, i'r gogledd-orllewin o Dre Taliesin rhywle rhwng Y Borth ac Aberdyfi.

I'r gorllewin o Dre Taliesin, ar ôl Llangynfelyn, ceir corsdir eang Cors Fochno, sydd â lle amlwg yn y canu darogan Cymraeg ac sy'n gysylltiedig â chwedlau llên gwerin.

Pobl o Dre Taliesin

golygu
  • Evan Isaac, llenor ac arbenigwr llên gwerin. Mae ei gyfrol Yr Hen Gyrnol a brasluniau eraill (1934) yn cynnwys ysgrifau am rai o hen gymeriadau'r ardal ar ddiwedd y 19.

Cyfeiriadau

golygu