Roedd Teyrnas Gŵyr yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Canolfan ei grym oedd penrhyn Gŵyr, de Cymru.

Arglwyddiaeth Gŵyr
Matharglwyddiaeth y Mers Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1116 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.62°N 4.14°W, 51.6721°N 3.9583°W Edit this on Wikidata
Map
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Y deyrnas gynnar

golygu

Ychydig iawn a wyddom am hanes y deyrnas. Roedd y prif ganolfannau crefyddol yn cynnwys Llangyfelach (un o eglwysi Dewi Sant) Ystum Llwynarth (a gysylltir â Sant Illtud) a Llandeilo Ferwallt (un o glasau Sant Teilo). Ni wyddys lleoliad y ganolfan wleidyddol.

Cwmwd Gŵyr

golygu

Yn nes ymlaen, creuwyd cwmwd Gŵyr ar diriogaeth yr hen deyrnas. Roedd y cwmwd hwn — yr un mwyaf yng Nghymru o lawer — yn rhan o gantref Eginog gyda'r cantref mawr hwnnw yn ei dro yn rhan o Ystrad Tywi. Hyd at ddyfodiaid y Normaniaid i dde Cymru yn y 1070au, roedd cwmwd Gŵyr yn nwylo brenhinoedd Deheubarth am y rhan fwyaf o'r amser, er bod ymgiprys am reolaeth arno gan Forgannwg hefyd.

Ni wyddys lleoliad canolfan wleidyddol y cwmwd, ond mae'n bosibl yr oedd yn Casllwchwr neu yn ei chyffiniau.

Syrthiodd rhan ddeheuol y cwmwd, sef penrhyn Gŵyr, i ddwylo'r Normaniaid ac ni chafodd ei adfer i reolaeth Deheubarth. Cafodd ei Seisnigeiddio'n arw, fel mae enwau lleoedd uniaith Saesneg penrhyn Gŵyr yn tystio heddiw. Ymranwyd yr hen gwmwd yn ddau gwmwd newydd, sef:

Roedd Gŵyr Is Coed yn cyfateb yn fras i benrhyn Gŵyr ac yn cael ei amgylchynnu ar dair ochr gan y môr. I'r gogledd gorweddai'r ail gwmwd, oedd yn cynnwys y tir rhwng Afon Llwchwr ac Afon Tawe gan ymestyn i fyny i lethrau isaf y Mynydd Du.

Gweler hefyd

golygu