Swydd Efrog a'r Humber
Un o naw rhanbarth Lloegr yw Swydd Efrog a'r Humber (Saesneg: Yorkshire and the Humber). Mae'n gorchuddio'r rhan fwyaf o sir hanesyddol Swydd Efrog, ynghyd â'r rhan o ogledd Swydd Lincoln a oedd wedi'i lleoli tu mewn i sir Humberside rhwng 1974 a 1996.
Math | rhanbarthau Lloegr, ITL 1 statistical regions of England |
---|---|
Poblogaeth | 5,502,967, 5,479,615, 5,316,700, 5,541,262 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 15,420 km² |
Yn ffinio gyda | Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.5667°N 1.2°W |
Cod SYG | E12000003 |
Disgwylid i Swydd Efrog a'r Humber (ynghyd â Gogledd-orllewin Lloegr) gynnal refferendwm ar sefydliad cynulliad rhanbarthol etholedig. Yn ddiweddar, yn Tachwedd 2004, gwrthododd rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr greu cynulliad rhanbarthol etholedig mewn refferendwm. Ar ôl hynny, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog bryd hynny, John Prescott, na fyddai'n bwrw ymlaen â refferenda mewn rhanbarthau eraill. Lleolir Cynulliad Swydd Efrog a'r Humber, sydd yn gwango, yn Wakefield.
Whernside, yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog, yw pwynt uchaf y rhanbarth (737m). Hornsea Mere, yn Nwyrain Swydd Efrog, yw'r llyn dŵr croyw mwyaf.
Yn 2011, roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,283,733.
Mae'n cynnwys y siroedd seremonïol:
- De Swydd Efrog
- Dwyrain Swydd Efrog
- y rhan fwyaf o Ogledd Swydd Efrog (Mae rhan fach wedi'i gynnwys yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.)
- Gorllewin Swydd Efrog
- rhan fach o Swydd Lincoln (Mae'r gweddill wedi'i gynnwys yn Nwyrain Canolbarth Lloegr.)
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Swyddfa'r Llywodraeth ar gyfer Swydd Efrog a'r Humber Archifwyd 2010-07-22 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cynulliad Rhanbarthol Swydd Efrog a'r Humber Archifwyd 2008-05-01 yn y Peiriant Wayback
Beverley a Holderness · Bridlington a'r Wolds · Brigg ac Immingham · Calder Valley · Canol Doncaster · Canol Efrog · Canol Leeds a Headingley · Canol Sheffield · Colne Valley · De Barnsley · De Bradford · De Leeds · De-ddwyrain Sheffield · De-orllewin Leeds a Morley · Dewsbury a Batley · Dwyrain Bradford · Dwyrain Doncaster ac Ynys Axholme · Dwyrain Kingston upon Hull · Dwyrain Leeds · Efrog Allanol · Gogledd Barnsley · Gogledd Doncaster · Gogledd Kingston upon Hull a Cottingham · Gogledd-ddwyrain Leeds · Gogledd-orllewin Leeds · Goole a Pocklington · Gorllewin Bradford · Gorllewin Kingston upon Hull a Haltemprice · Gorllewin Leeds a Pudsey · Great Grimsby a Cleethorpes · Halifax · Harrogate a Knaresborough · Huddersfield · Keighley ac Ilkley · Normanton a Hemsworth · Ossett a Denby Dale · Penistone a Stocksbridge · Pontefract, Castleford a Knottingley · Rawmarsh a Conisbrough · Richmond a Northallerton · Rother Valley · Rotherham · Scarborough a Whitby · Scunthorpe · Selby · Sheffield Brightside a Hillsborough · Sheffield Hallam · Sheffield Heeley · Shipley · Skipton a Ripon · Spen Valley · Thirsk a Malton Wakefield a Rothwell · Wetherby ac Easingwold