Stori fer
(Ailgyfeiriad o Stori Fer)
Ffuglen greadigol ar ffurf darn o ryddiaith cymharol fyr yw stori fer. Mae'n fyrrach na nofel ond mae ei hyd yn gallu amrywio o sawl paragraff yn unig i ddegau o dudalennau. Ar ôl y nofel, mae'r stori fer yn un o'r ffurfiau ffuglen mwyaf poblogaidd.
Anodd diffinio'r stori fer yn derfynol, ond mae ganddi sawl nodwedd arbennig fel ffurf lenyddol.
- Mae'r stori fer yn tueddu i ganolbwyntio ar un agwedd ar stori neu gymeriad a'i archwilio'n ofalus.
- Cyfyngir y llwyfan fel rheol ac mae'r cynllun yn llawer llai cymhleth na chynllun nofel.
- Torrir allan popeth sydd ddim yn berthnasol i'r stori ei hun.
- Dylai fod yn waith gorffenedig ynddo ei hun, yn gyfanwaith cyfan.
Rhai o feistri mawr y Stori Fer
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Dafydd Jenkins, Y Stori Fer Gymraeg (1966)
- John Jenkins (gol.), Y Stori Fer: Seren Wib Llenyddiaeth (1979)