Roparz Hemon
Llenor ac ysgolhaig o Lydaw oedd Roparz Hemon (18 Tachwedd 1900 – 29 Mehefin 1978). Ei enw swyddogol oedd Louis Paul Némo.
Roparz Hemon | |
---|---|
Ffugenw | Pendaran |
Ganwyd | Louis Paul Némo 18 Tachwedd 1900 Brest |
Bu farw | 29 Mehefin 1978 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Addysg | agrégation |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | geiriadurwr, Esperantydd, bardd, llenor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | An Tri Boulomig Kalon Aour, Gwalarn |
Mam | Julie Foricher |
Ysgrifennodd nifer o eiriaduron, erthyglau, gramadegau, nofelau, cerddi a storïau byrion. Ef oedd sylfaenydd y cylchgrawn llenyddol Llydaweg Gwalarn, lle cyhoeddodd nifer o awduron ieuanc eu gweithiau cyntaf yn y 1920au a'r 1930au.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n cyfarwyddo rhaglenni Llydaweg ar Radio Roazhon Breizh, a ariannwyd gan y Propagandastaffel, gwasanaethau propaganda y Natsïaid. Yn y 40au hefyd, bu'n golygu'r papur wythnosol Llydaweg Arvor. Ym mis Hydref 1942, cafodd ei ethol fel llywydd "Framm Keltiek Breizh" (Sefydliad Celtaidd Llydaw)" gan Leo Weisgerber, ieithydd Almaenig a oedd yn gweithio dros y Propagandastafell hefyd. Oherwydd hynny, ac erthyglau gwrth-semitig a fu yn y papur "Arvor", cafodd Hemon ei arestio ar gyhuddiad o gydweithredu â'r Natsïaid ar ôl y Rhyfel.
Ar ôl blwyddyn yn y carchar, cafodd gosb deng mlynedd o "dégradation nationale". Pendefynodd fynd i Iwerddon. Treuliodd ei fywyd mewn alltudiaeth yn Nulyn, yn gweithio yn y Dublin Institute for Advanced Studies. Nid aeth yn ôl i Lydaw erioed.
Gweithiau
golygu- An Den a netra (Un homme de rien), drama 1927
- Plac'hig vihan ar Mor, Kenta Mouladur Moulerez Brest - 1928, cyfieithiad o Hans Andersen.
- Précis de grammaire bretonne. Brest, Moulerez Stread ar C'hastell, 1928
- L'orthographe bretonne. Brest, Moulerez Stread ar C'hastell, 1929
- Cours élémentaire de breton, Rennes, 1932, ISBN B0000DV9R9,
- Kleier Eured Brest Gwalarn - 1934 ISBN 2-9511721-8-4
- Grammaire bretonne, Suivie de la prononciation bretonne Brest Gwalarn - 1941,
- An Aotrou Bimbochet e Breiz, Brest, Skridou Breizh, 1942,
- Les mots du breton usuel classés d'après le sens, Editions de Bretagne, Brest, 1942, ISBN B0000DPLFZ,
- Methode rapide de breton, 1942, ISBN B0000DUM0V
- La langue bretonne et ses combats. La Baule, Edition de Bretagne, 1947
- Alanig an tri roue, 1950 Skridoù Breizh; cyfieithwyd i'r Gymraeg fel Alan a'r tri brenin gan Zonia Bowen (1984.
- Geriadur istorel ar brezhoneg (geiriadur hanesyddol y Llydaweg) Preder, ISBN 2901383017- 36 llyfryn, 1959 tan 1979
- Alc'hwez ar brezhoneg eeun, ISBN 2868631266,
- Yezhadur istorel ar brezhoneg, Hor Yezh, ISBN 2910699366,
- Mari Vorgan, Al Liamm, 1962; cyfieithwyd i Ffrangeg fel "La Marie-Morgane", 1981, Les Presses d'aujourd'hui; cyfieithwyd i Gymraeg fel Morforwyn, Gwasg Prifysgol Cymru, Canolfan Astudiaethau Hanesyddol
- A Historical Morphology and Syntax of Breton, Dublin Institute for Advanced Studies, 1975,
- Christmas Hymns in the Vannes Dialect of Breton 1956,
- Trois poèmes en moyen-breton traduits et annotés par R. Hémon. Tremenuan an ytron Maria - Pemzec leuenez Maris - Buhez mab den, Dublin Institute for Advanced Studies,School of Celtic Studies, Dulyn, 1962, ISBN 1855000636,
- Ar Varn diwezhañ, Skol, 1998
- Grammaire bretonne, Al Liamm, 1963, ISBN B0000DOXNQ,
- Les Fragments de la Destruction de Jerusalem et des Amours du Vieillard (Textes en Moyen-breton), Traduits et annotés, Dublin Institute for Advanced Studies 1969,
- Ho kervel a rin en noz ha marvailhoù all. Brest, Al Liamm, 1970,
- Tangi Kerviler. Al Liamm, 1971, in-12, 169 p.
- Cours élementaire de breton, 1975, ISBN B0000DRE3H,
- Doctrin an Christenien, Dublin Institute for Advanced Studies,School of Celtic Studies, décembre 1977,
- Troioù-kaer ar baron pouf, An Here, 1986, ISBN 2868430368,
- Gaovan hag an den gwer, An Here, 1988, ISBN 286843052X,
- Furnez ha faltazi, Hor Yezh, 1998, ISBN 2910699269,
- An ti a drizek siminal, Hor Yezh, 1998, ISBN 2910699277,
- Nenn Jani, Al Liamm, 1974 ; cyfieithiad i'r Ffrangeg, Coop Breizh, 1998, ISBN 2843460379,
- Santez Dahud, Hor Yezh, 1998, ISBN 2910699293,
- Eñvorennoù, Al Liamm, 1998, ISBN 2-7368-00-53-2
- Barzhaz dianav ha barzhaz troet, Hor Yezh, 1997, ISBN 2-910699-21-8
Cysylltiadau Cymraeg
golyguCafodd Hemon ei erlid wedi’r rhyfel, ymhlith a dirprwyaeth a ddaeth o Gymru roedd yr Archdderwydd John Dyfnallt Owen a oedd a diddordeb mawr yn Llydaw ac ef a rhoddodd loches yn ei gartref yn Sir Gâr i Roparz Hemon, oedd wedi gorfod dianc o Lydaw. Cyfieithwyd rhai o’i weithiau i’r Gymraeg, a chyfieithodd ef o'r Gymraeg hefyd.
- ‘’Gwaith Ap Vychan’’ detholiad a droswyd i'r Llydaweg gan Roparz Hemon (Cylchgrawn Ar Bed Keltiek, Rhif 91, Gorffennaf 1966)
- ‘’Alanig an tri roue’’, 1950 Skridoù Breizh; cyfieithwyd i'r Gymraeg fel Alan a'r tri brenin gan Zonia Bowen (1984)
- ‘’Mari Vorgan’’, Al Liamm, 1962; cyfieithwyd i Gymraeg fel Morforwyn gan Rita Williams. Canolfan Astudiaethau Hanesyddol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995.
Ceir techneg tebyg i gynghanedd gydag odlau mewnol yn rhai o gerddi Hemon.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Karadog, Aneirin (2020). GYNGHANEDD HEDDIW, Y. [Place of publication not identified]: CYHOEDDIADAU BARDDAS. t. 93. ISBN 1-911584-39-1. OCLC 1141997937.
Ha mirout a rez, melezour, / Kuzhet e donder da werenn, / Eus an dremmig kizidik flour / A sellas ennout, ur roudenn?