Robert Recorde
mathemategwr a meddyg
Mathemategydd a meddyg Cymreig oedd Robert Recorde (tua 1512 – 1558). Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r hafalnod '=', a hynny yn 1557. Ef hefyd oedd y cyntaf i gyflwyno'r symbol 'adio' neu 'plws' (+) i siaradwyr Saesneg, hefyd yn 1557.[1][2][3][4][5]
Robert Recorde | |
---|---|
Ganwyd | c. 1510 Dinbych-y-pysgod |
Bu farw | 1558 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, meddyg, athronydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Whetstone of Witte, The Ground of Arts, The Castle of Knowledge |
Fe'i ganwyd i deulu parchus yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro, ac fe aeth ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.[6]
Ymgartrefodd yn Llundain fel meddyg a dywedir fod y brenin a'r frenhines ymhlith ei gleifion. Cafodd ei benodi'n bennaeth y bathdy ym Mryste yn 1549. Roedd yn gyfaill i'r mathemategydd, alcemydd ac athronydd Cymreig John Dee.
Bu farw yng Ngharchar Mainc y Brenin yn Southwark, wedi iddo fynd i ddyled.
Llyfrau
golygu- The Grounde of Artes, teachings the Worke and Practise, of Arithmeticke, both in whole numbers and fractions (c. 1540)
- The Pathway to Knowledge, containing the First Principles of Geometry ... bothe for the use of Instrumentes Geometricall and Astronomicall, and also for Projection of Plattes (Llundain, 1551)
- The Castle of Knowledge, containing the Explication of the Sphere both Celestiall and Materiall, etc. (Llundain, 1556)
- The Whetstone of Witte, which is the second part of Arithmetike, containing the Extraction of Rootes, the Cossike Practice, with the Rules of Equation, and the workes of Surde Numbers. (Llundain, 1557). Dyma'r llyfr a gyflwynodd yr hafalnod a'r llyfr Saesneg cyntaf ar algebra.
- The Urinal of Physick; Reynolde Wolfe; Llundain (1548).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Johnston, Stephen (2004). "Recorde, Robert (c.1512–1558)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/23241.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ arstechnica.com; adalwyd 10 Gorffennaf 2017.
- ↑ [Williams, Jack (2011). Robert Recorde: Tudor Polymath, Expositer and Practitioner of Computation. Springer.
- ↑ Roberts, Gareth a Fenny Smith (goln) (2012). Robert Recorde: The Life and Times of a Tudor Mathematician. Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Roberts,Gordon (2016). Robert Recorde: Tudor Scholar and Mathematician. Gwasg Prifysgol Cymru
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013