Philippe-Joseph Aubert de Gaspé
Roedd Philippe-Joseph Aubert de Gaspé (30 Hydref 1786 – 29 Ionawr 1871) yn awdur o Québec a anwyd ar gyfnod o newid yn hanes Canada. Roedd yn aelod o hen deulu bonheddig a urddwyd gan frenin Ffrainc. Ei waith enwocaf efallai yw Les Anciens Canadiens (1861).
Philippe-Joseph Aubert de Gaspé | |
---|---|
Ganwyd | 30 Hydref 1786 Québec |
Bu farw | 29 Ionawr 1871 Québec |
Dinasyddiaeth | Canada |
Galwedigaeth | llenor, awdur ysgrifau, cyfreithegwr |
Tad | Pierre-Ignace Aubert de Gaspé |
Mam | Catherine Tarieu dite Lanaudière |
Priod | Susanne Allison |
Plant | Phillipe-Ignace François Aubert de Gaspé, Elmire-Charlotte Aubert de Gaspé |
Ym 1978 cyfieithwyd ei stori fer Noson gyda'r Cythreuliaid i'r Gymraeg. Am storiau byrion mae'n enwocaf, storiau sy'n dal i gael eu darllen heddiw ac sy'n sôn am fywyd yr hen Ganada wledig. Cyhoeddodd hunangofiant ym 1866.
Roedd yn gyfreithiwr ac wedyn yn Sieriff Quebec. Philippe Aubert de Gaspé (ei fab) a ysgrifennodd, L’Influence d’un livre; roman historique (Québec, 1837).
Llyfryddiaeth
golygu- Storïau tramor 6: Storïau Ffrangeg allfro. Golygydd Mair Hunt, golygydd y gyfres Bobi Jones. Llandysul : Gwasg Gomer, 1978. Pymtheg stori gan awduron sy ddim o Ffrainc ond sy'n ysgrifennu yn y Ffrangeg.
Dolen allanol
golygu- Bywgraffiad (Ffrangeg)