Pab Clement XI
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 23 Tachwedd 1700 hyd ei farwolaeth oedd Clement XI (ganwyd Giovanni Francesco Albani) (23 Gorffennaf 1649 – 19 Mawrth 1721).
Pab Clement XI | |
---|---|
Ganwyd | Giovanni Francesco Albani 23 Gorffennaf 1649, 22 Gorffennaf 1649 Pesaro, Urbino |
Bu farw | 19 Mawrth 1721 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
Swydd | pab, cardinal |
llofnod | |
Roedd yn noddwr i'r celfyddydau a'r gwyddorau, yn ogystal â bod yn gymwynaswr pwysig i Lyfrgell y Fatican. Awdurdododd alldeithiau a lwyddodd i ailddarganfod amryw o ysgrifau Cristnogol hynafol. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn archeoleg, a chredir iddo ddiogelu llawer o weddillion Rhufain hynafol.
Rhagflaenydd: Innocentius XII |
Pab 23 Tachwedd 1700 – 19 Mawrth 1721 |
Olynydd: Innocentius XIII |