Owen Morgan Edwards

llenor
(Ailgyfeiriad o Owen M. Edwards)

Arolygwr ysgolion, llenor a chyhoeddwr cylchgronau i oedolion ac i blant o Gymru oedd Owen Morgan Edwards (26 Rhagfyr 185815 Mai 1920).

Owen Morgan Edwards
Ganwyd25 Rhagfyr 1858 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd, awdur ffeithiol, llenor, ieithydd, academydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlanuwchllyn Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PlantIfan ab Owen Edwards Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Edwards ar 26 Rhagfyr 1858 yng Nghoed-y-pry, Llanuwchllyn,[1] yn fab i Owen Edwards, ffermwr, ac Elizabeth.[2] Cafodd ei addysg yn ysgol y plwyf cyn mynychu Ysgol Ramadeg y Bala, ac yna Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Oddi yno aeth i Glasgow am gyfnod ac yna i Goleg Balliol, Rhydychen lle roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern.

Cafodd yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Dechreuodd fel cyd-olygydd Cymru Fydd (18891891), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw (gweler Cymru Fydd). Yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn Cymru (1891–1920) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y "Cymru Coch", oherwydd lliw y clawr. Yn yr un flwyddyn dechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant Cymru'r Plant; ar ei anterth yn 1900 roedd hwn yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis, sy'n ei wneud y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd erioed yn hanes Cymru.

Roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol a daeth yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1899, yn dilyn marwolaeth Thomas Edward Ellis ym mis Ebrill 1899. Ni fwynhaodd fywyd y senedd ac felly ni ymgeisiodd i gael ei ail-ethol ym 1900.

Yn 1907 dewiswyd ef yn brif arolygydd ysgolion Cymru. Ynghyd a'r gwaith hwnnw roedd yn ymroddedig i greu yn ei gyd-Gymry falchter yn eu hanes, ei hiaith a'u diwylliant, ac i'r perwyl hyn fe ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg wedi eu hysgrifennu mewn arddull a oedd yn apelio at y darllenydd cyffredin.

Golygodd a chyhoeddodd ddwy gyfres bwysig o glasuron rhyddiaith a barddoniaeth Cymraeg, sef Cyfres y Fil (37 cyfrol) a Llyfrau ab Owen. Cyhoeddodd yn ogystal Cyfres Clasuron Cymru. Cafodd y llyfrau bach deniadol, rhad a safonol hyn ddylanwad mawr ar feddylfryd y Cymry.

Gwnaethpwyd yn Farchog ym 1916 a gwobrwywyd gyda gradd anrhydedd o Brifysgol Cymru ym 1918. Bu farw ei wraig ym 1919, a bu farw yntau yn Llanuwchllyn ym 1920. Aeth ei fab, Ifan ab Owen Edwards ymlaen i sefydlu Urdd Gobaith Cymru. Enwyd Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn ar ei ôl er mwyn ei anrhydeddu.

Coed-y-pry, Llanuwchllyn oedd cartref O.M. Edwards a'i deulu yn 1871, roedd ei dad yn ffermwr 17 acer ar y pryd.[2] Yn ystod cyfrifiad 1881 roedd yn lletywr yn Meyrick House, Dolgellau, rhestrwyd ei alwedigaeth fel Minister Calvinistic Methodist Body.[3] Erbyn 1891, roedd yn byw adref gyda'i rieni unwaith eto yng Nghoedypry, rhestrwyd ei alwedigaeth fel athro hanes. Roedd ei frodyr, Thomas (melinydd), Edward (myfyriwr athroniaeth) a John M. (myfyriwr diwinyddiaeth) hefyd yn byw gyda hwy.[4] Priododd Ellen Elizabeth Davies yn fuan ar ôl hynny.[5] Roedd Edwards yn byw ym Mryn-yr-aber, Llanuwchllyn yn ystod cyfrifiad 1901, gyda'i wraig, ei fab Evan ab Owen a'i ferch, Haf. Roedd dwy forwyn hefyd yn byw gyda'r teulu. Rhestrwyd ei alwedigaeth fel Fellow of College & Lecturer.[6]

Llyfryddiaeth

golygu
 
Cerfluniau O. M. Edwards a'i fab Ifan ab Owen Edwards yn Llanuwchllyn ger Y Bala, Gwynedd

Llyfrau O. M. Edwards

golygu

Llyfrau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth

  • Yn y Wlad (1920)
  • Tro yn yr Eidal (1921)
  • Llyfr Owen (1926). I blant
  • Llyfr Haf (1926). I blant

Astudiaethau

golygu
  • W.J. Gruffydd, Owen Morgan Edwards, Cyfrol 1, 1858-1883 (Aberystwyth, 1937). Yr unig gyfrol a gyhoeddwyd.
  • Gwilym Arthur Jones, Bywyd a Gwaith Owen Morgan Edwards (1958)
  • R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg, 1902–1936 (1987). Pennod 7 ac 8 ar lyfrau O. M. Edwards a'u dylanwad.
  • Hazel Walford Davies (gol.), Bro a Bywyd: Syr O. M. Edwards 1858-1920 (Caerdydd, 1988)
  • Hazel Walford Davies, O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer, 2020)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Richard Aldrich, Peter Gordon (1989). Dictionary of British Educationists. Routledge. ISBN 9780713001778URL
  2. 2.0 2.1 Cyfrifiad 1871, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 10/5685
  3. Cyfrifiad 1881, Meyrick House, Meyrick Street, Dolgellau. RG 11/5546
  4. Cyfrifiad 1891, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 12/4639
  5. Mynegai Cofrestr Priodasau Lloegr a Cymru: Owen Morgan Edwards & Ellen Elizabeth Davies; chwarter cofrestr: Ebrill–Mehefin 1891; Ardal cofrestru: Bala; Cyfrol: 11b; Tudalen; 597.
  6. Cyfrifiad 1901, Glanaber, Llanuchwllyn. RG 13/1520

Dolenni allanol

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Edward Ellis
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
18991900
Olynydd:
Osmond Williams