Marguerite de Navarre

brenhines gydweddog Nafarroa (1492–1549)

Margueritte de Navarre yw enw mwyaf cyfarwydd Marguerite d'Angoulême (11 Ebrill 149221 Rhagfyr 1549), a elwir hefyd Marguerite d'Alençon, Duchesse d'Alençon, chwaer Ffransis I, brenin Ffrainc (1494-1597), gwraig yn gyntaf i Ddug Alençon ac ar ôl marwolaeth y dug yn wraig i Henri d'Albret, brenin Navarre; trwy'r cysylltiad olaf mae hi'n hynafes i linach y brenhinoedd Bourbon. Roedd hi'n llenores Ffrangeg, yn awdur yr Heptaméron a gweithiau eraill.

Marguerite de Navarre
GanwydMarguerite de Valois-Angoulême Edit this on Wikidata
11 Ebrill 1492 Edit this on Wikidata
Angoulême Edit this on Wikidata
Bu farw21 Rhagfyr 1549 Edit this on Wikidata
Odos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, bardd, perchennog salon, dramodydd, brenin Edit this on Wikidata
Swyddroyal consort Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHeptaméron Edit this on Wikidata
MudiadDyneiddiaeth Edit this on Wikidata
TadSiarl I Edit this on Wikidata
MamLouise o Safwy Edit this on Wikidata
PriodHenri II of Navarre, Charles IV, Duke of Alençon Edit this on Wikidata
PlantJeanne D'albret, John of Navarre Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Valois Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd hi'n ddynes o gymeriad uchel, deallus, eangfrydig, hoff o fywyd ac yn credu mewn rhyddid ysbrydol ac eto ar yr un pryd yn ddefosiynol iawn yn ei chrefydd. Dysgodd Ladin, Eidaleg a Sbaeneg ac astudiodd Hebraeg hefyd. Edmygai waith Plato a hyrwyddodd gyfieithiadau o'i Ddeialogau. Cefnogai Évangélisme a rhoddodd nawdd yn ei llys i wŷr goleuedig a erlidid gan y diwinyddion uniongred, yn eu plith Lefèvre d'Étaples, y bardd Clément Marot (1496-1594) a'r ysgolhaig clasurol Bonaventure Des Périers (m. c. 1544); amddiffynai hefyd Jean Calvin (1509-1564).

Gwaith Llenyddol

golygu
 
Maguerite de Navarre yn chwarae gwyddbwyll gyda'i brawd Francois d'Angoulême (o'r llyfr Échecs amoureux, 16eg ganrif)

Ei phrif waith llenyddol yw'r Heptaméron, casgliad o chwedlau mewn stori fframwaith a gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth (1558). Roedd hi'n barddoni hefyd a cheir rhai o'i cherddi gorau yn y cyfrolau Miroir de l'âme pécheresse a Chansons spitiruelles; cyhoeddwyd yr olaf gan aelod o'i llys dan y teitl Marguerites de la Marguerite des princesses. Ysgrifennodd yn ogystal nifer o ddramâu; y pwysicaf ydyw Comédie à dix personnages (1542), Comédie jouée à Mont de Marsan en 1547 a'r ddrama ysbrydol ddiddorol Comédie de la Nativité de Jésvs Christ (1547).

Llyfryddiaeth

golygu
  • Michel François (gol.), Marguerite de Navarre[:] L'Heptaméron (Paris, 1950).
  • F. Frank (gol.), Les Marguerites de la Marguerite des Princesses, 4 cyfrol (Paris, 1873).
  • Pierre Jourda (gol.), Marguerite de Navarre[:] Comédie de la Nativité de Jesvs Christ (Paris, d.d.).
  • Pierre Jourda, Une Princesse de la Renaissance: Marguerite d'Angoulême, reine de Navarre (Paris, 1932).
  • Verdun L. Saulnier (gol.), Marguerite de Navarre[:] Théatre Profane (Paris, 1946).

Cyfeiriadau

golygu