Llwybr Clawdd Offa

llwybr troed, Swydd Henffordd

Llwybr pellter hir sy'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, neu'n agos iddi, yw Llwybr Clawdd Offa. Cafodd ei agor yn 1971, ac mae'n un o dri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru. Am lawer o'i hyd o 283 km (177 milltir) mae'n dilyn olion Clawdd Offa, y clawdd pridd a godwyd yn yr 8g gan y brenin Offa, neu'n rhedeg yn ei ymyl.

Carreg filltir ger Llandegla

Mae'r mwyafrif o gerddwyr y llwybr yn cerdded o'r de i'r gogledd, gan gychwyn ger afon Hafren, yn Sedbury, ger Cas-gwent, a gorffen ym Mhrestatyn ar arfordir y gogledd. Ar gyfartaledd mae'n cymryd tua deuddeg diwrnod i gerdded y llwybr, ond gallai'r amser amrywio yn ôl ffitrwydd y cerddwr.

Gan ddilyn cwrs y clawdd hynafol, mae'r llwybr yn croesi sawl tirwedd amrywiol. Mae'n croesi'r Mynydd Du, bryniau'r Mers rhwng canolbarth Cymru a Swydd Amwythig, bryniau Eglwyseg ger Llangollen ac wedyn Bryniau Clwyd. Mae'n pasio heibio sawl safle archaeolegol gan gynnwys bryngaerau fel Moel Arthur.

Rhed y llwybr trwy drefi Cas-gwent, Trefynwy a'r Fenni yn y de-ddwyrain, Cusop a Y Gelli Gandryll, Tref-y-clawdd a Trefaldwyn ar y Gororau, ac wedyn trwy neu'n agos i drefi a phentrefi fel Llangollen, Llandegla, Bodfari a Diserth yn y gogledd-ddwyrain, i orffen ger Prestatyn.

Nodir pwynt hanner ffordd y llwybr gan Ganolfan Clawdd Offa yn Nhref-y-clawdd (ar y ffin rhwng Powys a Swydd Amwythig.

Dolenni allanol

golygu