Lluosi
Un o'r pedair gweithrediad sylfaenol mewn rhifyddeg yw lluosi; y leill yw tynnu, adio a rhannu. Caiff ei ddynodi, fel arfer, naill ai gyda "×", ar gyfrifiadur gyda asterics, "⋅". Ar adegau, nid oes angen symbol i ddangos hynny e.e. 6x = 12 (lle cymerir yn ganiataol mai'r hyn a olygir yw 6 x 2 = 12).
Gellir ystyried lluosi rhifau cyfan yn fath o adio ailadroddus. Ysgrifennir y lluosydd yn gyntaf ac yn lluosi yn ail,er y gall yr arfer amrywio yn ôl diwylliant. Er enghraifft, yn hytrach na defnyddio'r llwybr tarw 3 x 4 = 12, gellr adio, er mwyn cyrraedd yr un ateb:
Yma, gelwir y 3 a;r 4 yn ffactorau, a 12 yw'r lluoswm (yr ateb).
Gellir dweud fod gan luosi nodweddion 'cymudol': mae adio 3 copi o 4 yn rhoi'r un canlyniad ac adio 4 copi o 3:
Felly nid oes wahaniaeth i'r ateb ym mha drefn y daw'r lluosrif a'r lluosydd.
- Termau
- lluosrif: multiplicand[1]
- lluosydd: multiplier
- lluoswm: product
Mae lluosi cyfanrifau (gan gynnwys rhifau negyddol), rhifau cymarebol (ffracsiynau) a rhifau real yn cael ei ddiffinio gan gyffredinoliad systematig o'r diffiniad sylfaenol hwn.
Y gweithrediad croes i luosi yw rhannu. Er enghraifft, gan fod 4 wedi ei luosi â 3 yn hafal i 12, yna mae 12 wedi'i rannu â 3 yn hafal 4. Mae lluosi gyda 3, ac yna rhannu'r ateb gyda 3, yn rhoi'r rhif gwreiddiol (gan fod rhannu rhif (heblaw 0) gydag ef ei hun yn hafal i 1).
Dulliau
golyguLluosi hir
golyguDyma'r dull o luosi rhifau mawr oedd yn arfer cael ei dysgu. Enghraifft:
213 × 58 ——————————————— 1704 ( = 213 × 8) + 1065 ( = 213 × 5(0)) ——————————————— 12354 ( = 12,254)
Lluosi latis
golyguMae'r dull hwn yn cyfateb i'r dull uchod, ond yn haws i'w ddefnyddio a'i ddeall yn weledol. Enghraifft:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi; adalwyd 24 Awst 2018.