Llanbedr Pont Steffan
Tref a chymuned yn nyffryn Teifi, yng Ngheredigion yw Llanbedr Pont Steffan[1] (hefyd Llambed a Llanbed, Saesneg: Lampeter). Mae yno farchnad, dwy archfarchnad a nifer o siopau lleol. Yno hefyd mae Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Ysgol Ffynnonbedr ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Saif Hen Domen Llanbedr Pont Steffan, sef hen domen o'r Oesoedd Canol ar ochr ddwyreiniol i'r dref. Yng Nghyfrifiad 2001, poblogaeth Llambed oedd 2,894.[2] Mae hyn yn golygu mai Llambed ydy tref-brifysgol lleiaf gwledydd Prydain.
Math | tref farchnad, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,505 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.1202°N 4.0821°W |
Cod SYG | W04000370 |
Cod OS | SN578478 |
Cod post | SA48 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
- Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).
Y Brifysgol
golyguSefydlwyd Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn 1822 gan Esgob Burgess o Dyddewi er mwyn hyfforddi darpar offeiriaid yn yr eglwys Anglicanaidd. Yn 1852 cafodd yr hawl (drwy Siarter) i gynnig Gradd BD a Siarter arall i roi'r hawl i'r Brifysgol gynnig Gradd BA yn y celfyddyda 1865.[3] Roedd yn rhan o Brifysgol Cymru hyd at 2008. Sylfaenwyd pensaerniaeth y prif adeilad ar ddull petrual Rhydgrawnt (Saesneg: Oxbridge) ac a gynlluniwyd gan C. R. Cockerell. Enw newydd ar y coleg yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Tim rygbi'r Brifysgol oedd y cyntaf drwy Gymru, wedi i un o'r darlithwyr (Rowland Williams) ddod a'r gêm o Gaergrawnt.
Adeiladau eraill
golyguRoedd lleoliad cartref hen bobl Hafan Deg yn arfer bod yn wyrcws, a gafodd ei ddymchwel yn y 1960au pan godwyd y cartref newydd.[4]
Papur Bro
golyguPapur Bro Clonc[5] yw papur bro Llanbedr Pont Steffan a'r plwyfi o gwmpas y dref. Cyhoeddir rhifyn yn fisol, ac mae gwefan Clonc360[6] yn brosiect bywiog gan nifer o wirfoddolwyr lleol, dan faner y papur bro a Golwg360.[7]
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]
Enwogion
golygu- Gwion Edwards (1993– ), peldroediwr
- Idwal Jones (1895-1937), dramodydd a digrifwr
- Elin Jones, Aelod Cynulliad a Llywydd y Cynulliad - o Lanwnnen ger Llambed
- Ben Lake, Aelod Seneddol presennol Ceredigion
- Gareth Lloyd James, bardd, nofelydd ac athro - o Gwm-ann ger Llambed
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llambed ym 1984. I gael gwybodaeth bellach gweler:
Oriel
golygu-
Tafarn y King's Head
-
Canol y dref: cofeb rhyfel
-
Y Stryd Fawr
-
Neuadd y Dref
-
Cloc y neuadd
-
Banc y Nat West
-
Y Royal Oak
-
Banc Barclays
-
Y prif adeilad
-
Y prif adeilad
-
Y prif adeilad gyda chloddfa Geltaidd ar y chwith iddi
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ "Office for National Statistics : Census 2001 : Cyfrif Cymunedol : Ceredigion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-29. Cyrchwyd 2012-10-04.
- ↑ Jenkins, J. Geraint. Ceredigion: Interpreting an Ancient County. Gwasg Careg Gwalch (2005) pg. 29.
- ↑ gtj.org
- ↑ "Papur Bro Clonc". Clonc360.
- ↑ "Clonc360". Clonc360.
- ↑ "Golwg360". golwg.360.cymru.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolenni allanol
golygu- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan Archifwyd 2017-02-02 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pont-rhyd-y-groes · Pontsiân · Post-mawr · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystradaeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen