Kelvin
Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r kelvin (symbol: K), a ddefnyddir i fesur tymheredd. Fe'i henwir ar ôl y ffisegydd William Thomson, Arglwydd Kelvin. Mae'n debyg i'r raddfa Celsius gan fod 1 kelvin yn cyfateb i 1 gradd Celsius. Ond yn wahanol i raddfa Celsius, y rhif lleiaf posib ar y raddfa Kelvin yw "0 K" (sero K). Gelwir y tymheredd yma'n "sero absoliwt". Dyma'r tymheredd lle braidd nad oes unrhyw egni dirgryniol (gwres) yn bodoli yn y gronynnau.
Thermomedr sydd yn dangos y tymheredd yn Kelvin ac ar y raddfa Celsius | |
Enghraifft o'r canlynol | unedau sylfaenol SI, uned o dymheredd, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
O ganlyniad mae rhaid ychwanegu 273.15 i'r tymheredd yn Kelvin i gael y ffigwr ar raddfa Celsius.
Digwyddiad/ sefyllfa |
Tymheredd yn kelvin |
Tymheredd ar raddfa Celsius |
---|---|---|
Sero Absoliwt | 0 K | -273.15 °C |
Dŵr yn rhewi | 273.15 K | 0 °C |
Dŵr yn berwi | 373.15 K | 100 °C |
Tymheredd arwyneb yr Haul |
5780 K | 5507 °C |