Ian Holm
Roedd Sir Ian Holm, CBE (12 Medi 1931 – 19 Mehefin 2020) yn actor Seisnig.[1][2] Ymddangosodd yn ffilm Kenneth Branagh o Henry V fel y milwr o Gymru, Fluellen. Enillodd Wobr BAFTA am Actor Cefnogol Gorau am ei rôl yn y ffilm Chariots of Fire.
Ian Holm | |
---|---|
Ganwyd | Ian Holm Cuthbert 12 Medi 1931 Goodmayes |
Bu farw | 19 Mehefin 2020 o clefyd Parkinson Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor, video game actor, actor llais |
Adnabyddus am | The Lord of the Rings trilogy, Chariots of Fire, Alien |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Taldra | 1.66 metr |
Priod | Penelope Wilton |
Plant | Barnaby Holm |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, CBE, Gwobr Annie, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Marchog Faglor |
Roedd ei rannau adnabyddus mewn ffilmiau yn cynnwys Ash yn Alien, y Tad Vito Cornelius yn The Fifth Element, Chef Skinner yn Ratatouille, a Bilbo Baggins yn The Lord of the Rings a chyfres ffilm The Hobbit.
Cafodd ei eni, fel Ian Holm Cuthbert, yn Goodmayes, Essex, yn fab i James Harvey Cuthbert a'i wraig Jean Wilson (née Holm). Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Chigwell ac yn RADA.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod bedair gwaith. Ei drydedd wraig oedd yr actores Penelope Wilton. Roedden nhw wedi ysgaru yn 2001.
Ffilmiau
golygu- Mary, Queen of Scots (1971), fel David Rizzio
- Alien (1979)
- Chariots of Fire (1981)
- Time Bandits (1981), fel Napoleon
- Henry V (1989), fel Fluellen
- Hamlet (1990), fel Polonius
- The Borrowers (1992), fel Pod
- The Madness of King George (1994)
- The Lord of the Rings: The Fellowship of the Ring (2001), fel Bilbo Baggins
- The Lord of the Rings: The Return of the King (2003)
- The Hobbit: An Unexpected Journey (2012)
- The Hobbit: The Battle of the Five Armies (2014)
Teledu
golygu- Napoleon and Love (1974), fel Napoleon
- The Lost Boys (1978), fel J. M. Barrie
- S.O.S. Titanic (1979)
- Le Misanthrope (1980)
- The Browning Version (1985)
- Uncle Vanya (1991)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sir Ian Holm: Lord of the Rings and Alien star dies aged 88". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Mehefin 2020.
- ↑ "Sir Ian Holm, star of Lord of the Rings and Chariots of Fire, dies aged 88". The Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Mehefin 2020.