Gwlff Persia

môr

Mae Gwlff Persia (Arabeg: الخليج الفارسى; Perseg: خلیج فارس) Y Gwlff[1] yn estyniad neu gwlff o Gefnfor India sy'n gwahanu Iran oddi y gwledydd Arabaidd megis Sawdi Arabia. Gwledydd eraill sydd ag arfordir ar y Gwlff yw Irac, Ciwait, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar ac Oman, tra mae Bahrein yn ynys yn y Gwlff Persia. Oherwydd fod rhan helaeth o olew y byd yn dod o'r ardal yma, mae o bwysigrwydd strategol eithriadol ac mae nifer o ryfeloedd wedi eu hymladd yma. Heblaw olew, mae Gwlff Persia yn nodedig am ei gyfoeth mewn pysgod a pherlau, ond mae wedi ei ddifrodi i raddau gan y diwydiant olew yn y blynyddoedd diwethaf.

Gwlff Persia
Mathmôr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor India Edit this on Wikidata
GwladSawdi Arabia, Iran, Oman, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Catar, Bahrain, Coweit, Irac Edit this on Wikidata
Arwynebedd251,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26°N 52°E Edit this on Wikidata
Hyd989 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Gwlff Persia. Mae Gwlff Oman yn arwain i mewn i Fôr Arabia.

Mae arwynebedd y Gwlff tua 233,000 km². Ar yr ochr ddwyreiniol mae Culfor Hormuz yn ei gysylltu a Gwlff Oman. Ar yr ochr orllewinol, mae'r Shatt al-Arab, lle mae Afon Ewffrates ac Afon Tigris yn cyrraedd y môr. Nid yw'n ddyfn iawn, tua 90 m. yn y man dyfnaf a thua 50 m. ar gyfartaledd.

Er bod yr enw "Gwlff Persia" yn cael ei gofnodi cyn belled yn ôl a'r awduron clasurol, nid yw llawer o'r gwledydd Arabaidd o gwmpas y Gwlff yn ei dderbyn, gan ei fod yn awgrymu fod gan Iran hawl arno. Mae nifer o'r gwledydd hyn yn defnyddio Gwlff Persian (Arabeg: الخلیج الپارسیان al-khalīj al-ʿfars) amdano.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 95.