Ghazni
Dinas yn nwyrain canolbarth Affganistan a phrifddinas Talaith Ghazni yw Ghazni (Dari: غزنی, Pashto: غزني). Saif ar lwyfandir 2,225 m o uchder, ger Afon Ghazni. Hon yw'r unig ddinas gaerog sydd yn goroesi yn Affganistan.[1] Ar gyrion y ddinas ei hun mae pentref Rowẓeh-e Sultan, safle'r olion hynafol, gan gynnwys Meindyrau Ghazni a beddrod Mahmud o Ghazni.
Math | dinas, cyn-brifddinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 143,379 |
Cylchfa amser | UTC+04:30 |
Gefeilldref/i | Hayward |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ghazni District |
Gwlad | Affganistan |
Uwch y môr | 2,219 metr |
Cyfesurynnau | 33.5492°N 68.4233°E |
Mae'n debyg i Ghazni ddyddio'n ôl i'r 7g, os nad yn gynharach. Yn yr 11g, dan deyrnasiad Mahmud o Ghazni, hon oedd prifddinas Ymerodraeth y Ghaznavid, brenhinllin Fwslimaidd gyntaf Affganistan. Ysbeiliwyd Ghazni ym 1150–51 gan luoedd y Ghurid, a bu sawl llwyth yn brwydro drosti nes iddi ildio i'r Mongolwyr ym 1221. Codwyd uchelgaer o'i hamgylch yn y 13g. Gorchfygwyd bro Ghazni gan Timur yn y 14g, a bu dan dra-arglwyddiaeth y Timurid nes i'r Mughal gipio Ghazni a Kabul ym 1504. Daeth yn rhan o Ymerodraeth Durrani ym 1747 dan deyrnasiad Ahmad Shah Durrani. Cafodd Ghazni ei chipio am gyfnod gan y Prydeinwyr yn ystod Rhyfel Cyntaf yr Ymerodraeth Brydeinig yn Affganistan (1839–42).
Bellach, Ghazni yw'r brif anheddiad ar hyd y briffordd o Kabul i Kandahar, ac mae'n ganolfan fasnachol a diwydiannol pwysig ar gyfer da byw, crwyn anifeiliaid, sidan, a chynnyrch amaethyddol. Cynyddodd y boblogaeth o ryw 48,700 yn 2006 i 69,000 yn 2020.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Ghaznī. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Awst 2021.