Ganymede (mytholeg)
Bachgen ym mytholeg Roeg a ddaeth yn un o gariadon y duw Zeus oedd Ganymede (hefyd Ganymedes). Mae ei chwedl wedi cael ei bortreadu sawl gwaith gan artistiaid o'r cyfnod Clasurol hyd heddiw.
Delwedd:Bust Ganymede Louvre Ma535.jpg, Zeus and Ganymede. Penthesilea Painter.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | cymeriad chwedlonol Groeg |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bachgen golygus o Phrygia yn Asia Leiaf, yn fab i Tros ac yn frawd i Ilus, sefydlwyr chwedlonol Caerdroea, oedd Ganymede (ond yn ôl Lucian roedd yn fab i Dardanus).
Gwelodd Zeus ef yn hela gyda'i gymdeithion ar lethrau Mynydd Ida a syrthiodd mewn cariad ag ef. Disgynnodd arno yn rhith eryr a'i dwyn i'r nefoedd. Yn Olympus, daeth yn was cwpan Zeus yn lle Hebe. Fe'i portreadir yng ngweithiau celf yr Henfyd yn cael ei anwesu gan Zeus yn rhith yr eryr (un o'i symbolau pennaf).
Enwir Ganymede, un o loerennau'r blaned Iau, ar ei ôl.
Ffynhonnell
golygu- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).