Frederik Willem de Klerk

7fed arlywydd talaith De Affrica (1936-2021)
(Ailgyfeiriad o F. W. de Klerk)

Frederik Willem "F. W." de Klerk (18 Mawrth 193611 Tachwedd 2021) oedd Arlywydd olaf De Affrica yng nghyfnod Apartheid, o fid Medi 1989 hyd fis Mai 1994. Roedd yn fwyaf adnabyddus am gynnal y trafodaethau a arweiniodd ar ddiwedd Apartheid.

Frederik Willem de Klerk
Ganwyd18 Mawrth 1936 Edit this on Wikidata
Johannesburg Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 2021 Edit this on Wikidata
o Mesothelioma Edit this on Wikidata
Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Potchefstroom ar gyfer Addysg Uwch Gristnogol
  • Prifysgol Gogledd-Orllewin
  • Goodenough College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddState President of South Africa, Deputy President of South Africa, Minister of Education, Minister of Home Affairs of South Africa, Minister of Energy, Minister of Sport and Recreation, Minister of Social Development Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Genedlaethol, Y Blaid Genedlaethol Edit this on Wikidata
TadJohannes de Klerk Edit this on Wikidata
MamCorrie Coetzer Edit this on Wikidata
PriodMarike de Klerk, Elita Georgiades Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Philadelphia Liberty Medal, Gwobr James Joyce, Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Haifa, Gold Order of Mapungubwe, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Order of Good Hope, Order of Mapungubwe, Gwobrau Tywysoges Asturias Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://fwdeklerk.org Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed de Klerk yn Johannesburg, yn fab i gyn-aelod o'r Senedd, Jan de Klerk, a nai i J.G. Strijdom, oedd wedi bod yn Brif Weinidog De Affrica rhwng 1954 a 1958.

Daeth yn aelod seneddol dros Vereeniging yn 1969, ac yn aelod o'r cabinet yn 1978. Ystyrid ef yn wleidydd ceidwadol iawn, ond yn 1989 arweiniodd garfan a orfododd yr Arlywydd P. W. Botha i ymddiswyddo. Fel Arlywydd, gwnaeth i ffwrdd â'r gwaharddiad ar yr ANC, Plaid Gomiwnyddol De Affrica a mudiadau eraill ym mis Chwefror 1990. Ar 10 Chwefror yr un flwyddyn, cyhoeddodd y byddai Nelson Mandela yn cael ei ryddhau o garchar. Yn dilyn cyfres o drafodaethau rhwng de Klerk a Mandela, gwnaed i ffwrdd ag Apartheid, a daeth Mandela yn Arlywydd yn dilyn etholiadau 1994. Bu de Klerk yn Ddirprwy Arlywydd hyd 1997, pan ymddeolodd o wleidyddiaeth.

Yn 1993, dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a Nelson Mandela am eu gwaith yn rhoi diwedd ar Apartheid.

Bu farw De Klerk yn Nhref y Penrhyn ar 11 Tachwedd 2021.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) FW de Klerk: South Africa's last apartheid president dies at 85. BBC News (11 Tachwedd 2021). Adalwyd ar 27 Awst 2024.
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Pieter Willem Botha
Arlywydd De Affrica
19891994
Olynydd:
Nelson Mandela