Emirad Islamaidd Affganistan (1996–2001)
Gwladwriaeth Islamig dan reolaeth y Taleban yn Affganistan a fodolodd o o 1996 hyd 2001 oedd Emirad Islamaidd Affganistan. Gyda'i phrifddinas yn Kabul, roedd yr emirad yn cynnwys y rhan fwyaf o'r wlad, yn cynnwys tiriogaeth y Pashtwniaid, ond roedd rhannau, yn arbennig cadarnle Cynghrair y Gogledd yn y gogledd, yn gorwedd tu allan i reolaeth y Taleban ac yn gwrthwynebu eu rheolaeth.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg |
---|---|
Daeth i ben | 17 Rhagfyr 2001 |
Label brodorol | د افغانستان اسلامي امارات |
Poblogaeth | 26,813,057 |
Crefydd | Swnni |
Dechrau/Sefydlu | 27 Medi 1996 |
Olynydd | Afghan Interim Administration, Gwladwriaeth Islamaidd Affganistan |
Enw brodorol | د افغانستان اسلامي امارات |
Gwefan | https://alemarahenglish.af/ |
Cydnabuwyd Emirad Islamaidd Affganistan yn ddiplomyddol gan dair gwladwriaeth yn unig: yr Emiradau Arabaidd Unedig, Pacistan, a Sawdi Arabia. O dan arweinyddiaeth Mwlah Mohammed Omar, arweinydd y Taleban, roedd mwlah yh rheoli pob pentref, y rhan fwyaf ohonynt gyda chefndir o addysg yn ysgolion crefyddol Islamaidd ym Mhacistan.
Daeth y Taleban yn ddrwg-enwog am eu triniaeth hallt o fenywod. Gorfodwyd menywod i wisgo'r burqa ar goedd; ni chaniateid iddynt weithio y tu allan i'r cartref; ni chaniateid iddynt gael eu haddysgu ar ôl cyrraedd wyth oed, a than hynny caniateid iddynt astudio'r Coran yn unig; ni chaniateid iddynt gael eu trin gan feddygon gwrywaidd heb warchodwr yn bresennol; a gwynebant chwipio cyhoeddus a'r gosb eithaf am droseddu yn erbyn cyfraith y Taleban, seiliedig ar ddarlleniad llythrennol o'r gyfraith sharia ar ei llymaf.
Yn o'r pethau a ganiatawyd gan lywodraeth yr emirad — neu gan rai elfennau ynddi, o leiaf — oedd dinistrio cerfluniau byd-enwog Bamiyan trwy eu shelio. Roedd y llywodraeth yn gweld y cerfluniau Bwdhaidd hynafol fel delweddau "an-Islamaidd" a "phaganaidd", ond roeddent wedi sefyll yn Bamiyan am dros 2,000 o flynyddoedd heb fawr niwed cyn hynny.
Baniwyd cerddoriaeth o bob math, ffilmiau a ffotograffau.
Cafodd llywodraeth yr emirad ei dymchwel yn 2001 pan ymosododd lluoedd NATO ac UDA ar y wlad.