Chwaraewr rygbi'r undeb yw Dwayne John Peel (ganed 31 Awst 1981). Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd fel mewnwr i glybiau Scarlets Llanelli, Sale Sharks a Rygbi Bryste yn ogystal â Chymru.

Dwayne Peel
Enw llawn Dwayne John Peel
Dyddiad geni (1981-08-31) 31 Awst 1981 (43 oed)
Man geni Caerfyrddin
Taldra 178 cm (5 tr 10 mod)
Pwysau 87 kg (13 st 10 lb)[1]
Ysgol U. Maes yr Yrfa
Prifysgol Prifysgol Abertawe
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Mewnwr
Clybiau proffesiynol
Blynydd. Clybiau Capiau (pwyntiau)
2000–2003
2003–2008
2008–2014
2014-2016
Llanelli
Scarlets
Sale Sharks
Rygbi Bryste
?
81
122
20
(?)
(75)
(68)
(22)
yn gywir ar 6 Mawrth 2015.
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
2001–
2005
Cymru
Y Llewod
76
3
(25)
(0)
yn gywir ar 31 Mawrth 2012.

Ganed ef yng Nghaerfyrddin ac astudiodd ym Mhrifysgol Abertawe. Ymunodd â Chlwb Rygbi Llanelli, gan symud i Scarlets Llanelli pan ffurfiwyd y timau rhanbarthol yn 2003. Ar 15 Ionawr 2008, cyhoeddwyd y byddai'n ymuno â Sale Sharks ar ddiwedd tymor 2007–2008.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Japan yn 2001, pan oedd yn dal yn fyfyriwr. Roedd yn rhan allweddol o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005. Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2005; ef oedd y chwaraewr ieuengaf yn y garfan. Ar 9 Medi 2007, Peel oedd capten Cymru yn ei gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd 2007, pan gurwyd Canada 42-17.

Roedd yn rhan o'r garfan a gyflawnodd y Gamp Lawn ym mhencampwriaeth 2008, ond erbyn hyn yr oedd yn wynebu cystadleuaeth am safle mewnwr oddi wrth Mike Phillips. Dim ond un gêm a ddechreuodd Peel yn y bencampwriaeth yma, yn erbyn yr Eidal. Yn Ionawr 2009, cyhoeddwyd nad oedd wedi ei ddewis i fod yn aelod o sgwad Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2009, gyda Mike Phillips a Gareth Cooper yn cael eu dewis fel mewnwyr. Arwyddodd i dîm Rygbi Bryste ar gyfer tymor 2014-2015, a cafodd ei apwyntio yn gapten y clwb gan chwarae gyda cyd-chwaraewyr rhyngwladol Ryan Jones ac Ian Evans.

Bu'n rhaid iddo ymddeol o chwarae rygbi proffesiynol yn Mawrth 2016 ar ôl dioddef o anaf tymor hir ar ei ysgwydd. Enillodd Peel 76 cap i Gymru rhwng 2001 a 2011, a fe gynrychiolodd Llewod Prydain ac Iwerddon mewn tri gêm brawf.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Aviva Premiership Rugby - Sale Sharks". web page. Premier Rugby. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-16. Cyrchwyd 24 September 2011.
  2. Dwayne Peel: Bristol and former Wales scrum-half retires (en) , BBC Sport, 2 Mawrth 2016.