Prifddinas Jibwti yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Dinas Jibwti neu dim ond Jibwti (Arabeg: جيبوتي}, Somaleg: Jabuuti, Ffrangeg: Ville de Djibouti). Hi yw dinas fwyaf y wlad, gyda phoblogaeth o tua 400,000. Mae hefyd yn borthladd pwysig.

Dinas Djibouti
Mathdinas, dinas â phorthladd, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth603,900 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1888 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Malé, Rimini, Key West, Victoria, Suez, Jizan, Port Sudan, Aden, Izola, Kailua, La Paz, Algeciras, Khartoum, Granada, Victoria, Seychelles Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDjibouti Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Jibwti Jibwti
Uwch y môr14 metr Edit this on Wikidata
GerllawGulf of Tadjoura Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau11.595°N 43.1481°E Edit this on Wikidata
DJ-DJ Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Saif Dinas Jibwti ar yr arfordir, ar Gwlff Aden a gerllaw'r culfor sy'n arwain i mewn i'r Môr Coch. Sefydlwyd yr harbwr yma yn 1888. O 1892 hyd 1977, roedd yn brifddinas Somaliland Ffrengig.

Heblaw bod o bwysigrwydd economaidd mawr i'r wlad ei hun, mae porthladd Dinas Jibwti wedi dod yn bwysig iawn i Ethiopia wedi i'r wlad honno golli ei mynediad at y môr pan ddaeth Eritrea yn annibynnol. Mae rheilffordd yn cysylltu Dinas Jibwti ag Addis Ababa.

Harbwr Dinas Jibwti