Claudius
Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus neu Claudius (1 Awst 10 CC – 13 Hydref 54) oedd pedwerydd Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus. Bu'n ymeradwr o 24 Ionawr 41 hyd ei farwolaeth.
Claudius | |
---|---|
Ganwyd | Tiberius Claudius Drusus 1 Awst 10 CC Lugdunum |
Bu farw | 13 Hydref 0054 o gwenwyniad Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, hanesydd, Augur, llenor |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Censor, Conswl Rhufeinig |
Adnabyddus am | De vita sua |
Tad | Nero Claudius Drusus |
Mam | Antonia Minor |
Priod | Plautia Urgulanilla, Aelia Paetina, Messalina, Agrippina Yr Ieuengaf |
Partner | Calpurnia, Cleopatra, Livia Medullina, Aemilia Lepida |
Plant | Tiberius Claudius Drusus, Claudia Julia, Claudia Antonia, Claudia Octavia, Britannicus, Nero |
Perthnasau | Nero |
Llinach | Julio-Claudian dynasty, Claudii Nerones |
Ganed ef yn Lugdunum (dinas Lyon yn Ffrainc heddiw), yn fab i Drusus ac Antonia Minor. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r Eidal.
Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw Augustus yn 14 gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, Tiberius am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth Caligula yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar 24 Ionawr 41, llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.
Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia a and Iudaea yn ogystal â choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda pedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.
Bu farw Claudius ar 13 Hydref 54. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig Agrippina ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan Nero, mab Agrippina o briodas flaenorol.
Rhagflaenydd: Caligula |
Ymerawdwr Rhufain 25/26 Ionawr 41 OC – 13 Hydref 54 OC |
Olynydd: Nero |