Cerddorfa Plant Genedlaethol Prydain Fawr
Mae Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr, a adnabyddir fel NCO, yn elusen gofrestredig sy’n darparu hyfforddiant cerddorfaol i blant 8 i 14 oed.[1] Mae'r sefydliad yn cynnwys tair cerddorfa breswyl a phedair cerddorfa ddi-breswyl. Ceir mynediad trwy glyweliad yn flynyddol ac mae dros 640 o gerddorion ifanc yn cael eu dewis i chwarae yn y cerddorfeydd.
Enghraifft o'r canlynol | cerddorfa |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1978 |
Gwefan | https://www.nco.org.uk/ |
Hanes
golyguSefydlwyd NCO yn 1978 gan Vivienne Price MBE. Roedd Price yn athrawes ffidil a oedd wedi sefydlu nifer o gerddorfeydd lleol i blant yn Surrey, ond roedd yn ymwybodol iawn o'r diffyg cyfleoedd cenedlaethol i gerddorion iau. Roedd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr (NYO) wedi ei sefydlu yn 1948. Roedd hefyd llawer o gerddorfeydd ieuenctid rhanbarthol ar gael. Ond roedd y plant iau yn cael trafferth ffitio i mewn yn gymdeithasol ac felly sefydlodd Price NCO.
Y Cerddorfeydd
golyguMae tair cerddorfa breswyl ar gyfer oedrannau gwahanol:
- Prif Gerddorfa
- Cerddorfa dan 13 oed
- Cerddorfa dan 12 oed
Mae pob cerddorfa genedlaethol yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn ar gyrsiau preswyl ledled y DU. Mae'r Brif Gerddorfa a Cherddorfa Dan 13 yn cael cwrs wyth diwrnod yn y gwanwyn a chwrs wyth diwrnod arall yn yr haf, y ddau yn gorffen gyda chyngerdd cyhoeddus mewn lleoliad mawreddog. Yn ogystal, mae'r Brif Gerddorfa yn cael penwythnos di-breswyl yn Llundain yn y gaeaf. Mae'r Gerddorfa Dan 12 yn cael 2 gwrs 7 diwrnod y flwyddyn gydag un cyngerdd preifat ac un cyhoeddus ar ôl yr ail gwrs.
Cerddorfeydd Prosiect
golyguMae hefyd pedair cerddorfa 'prosiect' sy'n cyfarfod mewn lleoliadau gwahannol 2 benwythnos y flwyddyn.
Cyngherddau
golyguDaw pob cwrs i ben gyda chyngerdd. Mae'r cerddorfeydd prosiect yn perfformio ar gyfer teulu a ffrindiau. Yn y gorffenol, mae'r Prif Gerddorfeydd wedi perfformio yn: Symphony Hall, Birmingham, Royal Albert Hall, Bridgewater Hall, Southbank Centre, The Sage Gateshead, Colston Hall, Neuadd Dewi Sant, Neuadd y Ddinas Leeds, Neuadd y Ddinas Birmingham, The Anvil, Basingstoke, Brighton Dome, Canolfan y Barbican a Neuadd Gyngerdd Frenhinol Nottingham.
Cyn-fyfyrwyr
golyguAr ôl gadael NCO mae'r rhan fwyaf o gerddorion yn symud ymlaen i gyfleoedd cerddorol eraill. Roedd cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2010 yn cynnwys 25 o gystadleuwyr yn rownd derfynol y categorïau, ac roedd 13 ohonynt wedi mynychu NCO!
Cyn-fyfyrwyr nodedig
golyguEnw | Offeryn/Proffesiwn | Aelodaeth NCO |
---|---|---|
Janice Graham | Feiolinydd | 1980-2 |
Daniel Harding | Arweinydd | 1988 |
Guy Johnston | Sielydd | 1992-5 |
Robin Ticciati | Arweinydd | 1992-5 |
Nicola Benedetti | Feiolinydd | 1995-8 |
Katherine Bryan | Ffliwtiwr | 1994-5 |
Martin James Bartlett | Pianydd | 2007-9 |
Charlie Lovell-Jones | Feiolinydd | 2007-12 |
Anna Lapwood | Organydd |
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "At NCO Music Matters | The National Children's Orchestras of Great Britain". www.nco.org.uk. Cyrchwyd 2024-01-30.