Canolbarth America
Mae Canolbarth America yn rhanbarth ddaearyddol ar gyfandir yr Amerig sy'n gorwedd rhwng rhan ogleddol Gogledd America a De America. Mae'n gorwedd rhwng ffin ogleddol Gwatemala a ffin ogledd-orllewinol Colombia ac yn cynnwys tua 596,000 km² (230,000 milltir sgwâr) o dir. Mae'r tywydd yn drofaol ac mae'r rhanbarth yn dioddef corwyntoedd cryf weithiau.
Enghraifft o'r canlynol | isgyfandir |
---|---|
Poblogaeth | 180,095,918 |
Rhan o | Yr Amerig, America Ladin, Gogledd America, De America |
Yn cynnwys | Gwatemala, El Salfador, Hondwras, Nicaragwa, Costa Rica, Panamâ, Belîs |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Canolbarth America yn cynnwys saith gwlad, o'r gogledd i'r de:
Daearyddiaeth
golyguMae Canolbarth America yn rhanbarth fynyddig. Ceir nifer o losgfynyddoedd, yn cynnwys Tajumulco sy'n codi i 4210m (13,846'). Mae ei hardaloedd arfordirol yn ffrwythlon a thyfir nifer o gnydau, er enghraifft bananas, coffi a coco. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion o dras gymysg Ewropeiaidd a brodorol.
Hanes
golyguCyn ymddangosiad yr Ewropeiaid cyntaf bu rhannau o Ganolbarth America yn gartref i wareiddiaid brodorol hynod, er enhgraifft penrhyn Yucatan. Syrthiodd y tir i feddiant Sbaen (ac eithrio Belîs ac ambell fan arall). Yn gynnar yn y 19g cafodd gwledydd y rhanbarth annibyniaeth ar Sbaen a ffurfiodd Costa Rica, El Salfador, Gwatemala, Hondwras a Nicaragwa Cynghrair Canolbarth America (neu 'Taleithiau Unedig Canolbarth America') (1823 - 1838). Yn 1960 ffurfiodd y gwledydd hyn Marchnad Gyffredin Canolbarth America.