Brech goch
Afiechyd heintus ar bobl a phlant yw'r frech goch (Saesneg: measles) sy'n tarddu o feirws paramyxovirus (o'r genws Morbillivirus) ac sy'n ymosod ar y system anadlu.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd hysbysadwy, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | Morbillivirus infectious disease, clefyd heintus firol, pandemic and epidemic-prone diseases |
Arbenigedd meddygol | Afiechydon heintiol |
Symptomau | Y dwymyn, peswch, runny nose, maculopapular rash, lymphadenopathy, anorecsia, dolur rhydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r symptomau'n cynnwys peswch, tishian, llygaid coch, trwyn gwlyb, twymyn a smotiau cochion (neu frech). Mae'r frech goch yn hynod o heintus ac yn ymledu drwy i'r hylif (o'r trwyn neu'r geg) gyffwrdd person arall, naill ai drwy gyffyrddiad neu drwy'r aer. Ar gyfartaledd mae 90% o bobl sydd yn byw yn yr un tŷ yn ei ddal, oni bai fod ganddyn nhw imiwnedd i'r haint. Gall y cyfnod heintio fod rhwng 6–19 diwrnod.[1]
Mae'r brechlyn trifflyg MMR yn cael ei roi i fabanod er mwyn atal yr haint hwn.
2013
golyguCafwyd cynnydd yn y nifer o achosion o'r frech goch yn Abertawe yn Ebrill 2013, gyda thros 620 achos (hyd at 16 Ebrill).[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Y frech goch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-06. Cyrchwyd 2009-08-01.
- ↑ "Swansea measles epidemic: 620 cases confirmed.". Guardian. 9 Ebrill 2013.