Behemoth
Creadur mytholegol (Hebraeg בהמות, Bəhēmôth, Behemot, B'hemot, ffurf lluosog ar y gair בהמהbəhēmāh, "anifail", efallai ; Arabeg بهيموث Bahīmūth neu بهموت Bahamūt) y cyfeirir ato yn Llyfr Job, 40:15-24. Fel metaffor mae'n disgrifio unrhyw greadur neu beth anferth.
Enghraifft o'r canlynol | creadur chwedlonol, cymeriad Beiblaidd |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn y traddodiad Iddewig, Behemoth yw'r pennaf o anifeiliaid y tir, yn anghenfil elfennol anorchfygol; yn yr un modd mai Lefiathan yn ben ar greaduriaid y môr a Ziz yn ben ar greaduriaid yr awyr.
Mae Behemoth yn chwarae rhan bwysig yn esgatoleg yr Iddewon. Bydd Behemoth a Lefiathan yn ymladd â'i gilydd ar ddiwedd y byd. Ar ôl lladd nifer o greaduriaid llai byddent yn lladd ei gilydd a bydd y dynion olaf i oroesi yn gwledda ar eu cig. Mae traddodiad haggaidd diweddarach yn ychwanegu bydd y Ziz yn cymryd rhan yn y frwydr olaf honno yn ogystal.
Mae sawl damcaniaeth ynglŷn â chynsail posibl i Fehemoth ym myd yr anifeiliaid. Mae'r fwyaf credadwy ohonynt yn awgrymu mai o adroddiadau teithwyr am y dyfrfarch (hippopotamus) neu'r eliffant y daeth y bwystfil dychmygol i fodolaeth.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Jewish Encyclopedia: Behemoth.
- (Saesneg) Putting God on Trial- The Biblical Book of Job Archifwyd 2018-09-01 yn y Peiriant Wayback y Behemoth mewn llenyddiaeth.