Bedwellte

pentrefan ym mwrdeistref sirol Caerffili

Pentrefan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Bargod, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Bedwellte[1] (Saesneg: Bedwellty).[2] Fe'i lleolir ger pentref Argoed tua 3 milltir i'r gogledd o'r Coed Duon.

Bedwellte
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArgoed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6954°N 3.2072°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO166004 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHefin David (Llafur)
AS/au y DUWayne David (Llafur)
Map

Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant Sannan. Ceir Ffynnon Sant Sannan ger yr eglwys. Yr unig le arall a gysylltir â'r sant hwn yw plwyf Llansannan yn Sir Conwy. Mae'n bosibl y bu dau sant o'r un enw, un yn frodor o ogledd Cymru a'r llall yn Wyddel (Gwyddeleg: Senanus/Senan) o dalaith Munster a ymsefydlodd yng Nghymru yn amser Dewi Sant ac a sefydlodd glas ym Medwellte.[3]

Eglwys Sant Sannan, eglwys plwyf Bedwellte

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Wayne David (Llafur).[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato