Arddull arbennig mewn pensaernïaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau a fu'n boblogaidd rhwng diwedd yr 17g a chanol y 18g, yn enwedig yng ngwledydd Catholig Ewrop, yw Baróc (benthyciad o'r gair Saesneg Baroque sydd yn ei dro yn fenthyciad o'r gair Ffrangeg baroque o'r gair Sbaeneg barrueco). Mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio unrhyw arddull anghyffredin yn y celfyddydau. Gellid ystyried yr arddull Baróc fel adwaith yn erbyn Clasuriaeth y Dadeni. Dechreuodd yn yr Eidal.

Baróc
Enghraifft o'r canlynolmudiad diwylliannol, symudiad celf, arddull, cyfnod o hanes, arddull pensaernïol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd16 g Edit this on Wikidata
Daeth i ben1750s Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganDarddulliaeth, y Dadeni Dysg Edit this on Wikidata
LleoliadEwrop, Rwsia, Y Byd Newydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBaroque literature, celf Faróc, High Baroque, Late Baroque, Early Baroque Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Abaty Melk, Awstria: enghraifft enwog o bensaernïaeth faróc

Fe'i nodweddir mewn pensaernïaeth ac arlunio gan ddefnydd llinellau ystwyth neu doredig, arddurnwaith blodeuog a goreuraidd (a arweiniodd at yr arddull Rococo) ac effeithiau gofodol dramatig. Ymhlith yr artistiaid baroc pwysicaf gellid crybwyll Bernini, Borromini, Caravaggio a Rubens.

Mewn cerddoriaeth gelwir cyfansoddiadau gan gyfansoddwyr fel Johann Sebastian Bach a Monteverdi yn gerddoriaeth faróc. Dyma'r cyfnod a welodd ddatblygiad yr opera, yr oratorio, y trio sonata a'r concerto grosso (gweler Arcangelo Corelli, er enghraifft).

Mewn llenyddiaeth mae Baróc yn derm llai pendant a diffiniedig. Gellid ystyried nofelau picaresg y cyfnod yn enghraifft. Roedd yn ddylanwad pwysig ar lenyddiaeth y cyfnod yn ogystal, yn enwedig yn Ffrainc, yr Eidal, de'r Almaen a Sbaen.

Rhai cyfansoddwyr Baróc

golygu

Gweler hefyd

golygu