Ansoddair
Gair disgrifiadol sy'n rhoi mwy o wybodaeth am wrthrych penodol ydy ansoddair. Ceir ansoddeiriau ymhob iaith bron. Mae'r ieithoedd hynny na sydd yn defnyddio ansoddeiriau yn defnyddio rhannau ymadrodd eraill, berfau yn aml, i wneud yr un swyddogaeth semantegol.