Dinas ym Moroco yw Agadir (Arabeg: أغادير Aġadīr neu Agadīr, Berbereg (Amazigh): ⴰⴳⴰⴷⵉⵔ). Fe'i lleolir yn ne-orllewin Moroco ar lan Cefnfor Iwerydd ac mae'n brifddinas talaith Agadir (MA-AGD) a rhanbarth Souss-Massa-Draâ. Poblogaeth: tua 200,000.

Agadir
Mathurban commune of Morocco, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth538,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1505 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAziz Akhannouch Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Montreuil, Oakland, Miami, Olhão, Naoned, Stavanger, Shiraz, Vigan, Douala, Pleven Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAgadir-Ida-Ou-Tanane Prefecture Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr74 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.4214°N 9.5831°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAziz Akhannouch Edit this on Wikidata
Map

Dyma'r ddinas Forocaidd fwyaf cyfarwydd i dwristiaid o'r Gorllewin oherwydd y gwestai gwyliau paced niferus yno ac yn y cyffiniau.

Sefydlwyd canolfan masnach arfordiol yma gan y Portiwgalwyr ar ddechrau'r 16g. Ar 29 Chwefror, 1960, dinistrwyd Agadir gyfan bron mewn daeargryn a barodd am 15 eiliad: amcangyfrir fod tua 15,000 wedi'u lladd. Dinistrwyd yr hen Kasbah. Datblygwyd y ddinas o'r newydd bron a'i throi yn ganolfan gwyliau 'haul y gaeaf'. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ac mae miloedd lawer o dwristiaid yn hedfan yno o wledydd Ewrop. O ganlyniad, dydy Agadir ddim yn ddinas Forocaidd nodweddiadol.

Cymunedau

golygu
  • Secteur Touristique
  • Founty
  • Iligh
  • Sonaba
  • Ihchach
  • Les Amicales
  • City Centre
  • Nouveau Talborjt
  • Cité Suisse
  • Lakhiyam
  • Dakhla
  • Extension Dakhla
  • Al Houda
  • Salam
  • Riad Assalam
  • Hay al Hassani
  • Anza
  • L'Erac (Bouargane).
  • Quartier Industriel Tasila
  • Tilila
  • Quartier Residentiel
  • Quartier Al mohammadi

Amgueddfeydd

golygu
  • Musee de Talborjt "La Casbah"
  • Musee Bert Flint
  • Le Musse des Arts Berberes
  • Musee Municipal de Agadir
  • Le Sicilien Coco Polizzi (Quartier)

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato