Cnofil mawr lled-ddyfrol cynffonlydan o'r genws Castor gyda blaenddannedd ffurf cŷn sy'n byw ger afonydd yw afanc. Ceir dwy rywogaeth o afanc heddiw: yr afanc Ewropeaidd (Castor fiber) a'r afanc Americanaidd (Castor canadensis). Maent yn aml yn cnoi coed i lawr ac yn adeiladu camlesi ac argaeau ohonynt i ffurfio pyllau cronedig lle maent yn adeiladu gwalau ynysol, sych a chromennog gyda mynedfeydd tanddwr.

Afanc
Delwedd:Bäver närbild.jpg, American Beaver.jpg, 00 1197 Durch Biber gefällter Baum.jpg
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
MathLlysysydd Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonCastoridae Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 25. CC Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCynffon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Afanc
Afanc Ewropeaidd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Castoridae
Genws: Castor
Linnaeus, 1758
Rhywogaethau

C. canadensis
C. fiber
C. californicus (diflanedig)

Enw gwyddonol yr afanc Ewropeaidd yw Castor fiber. Ei hen enw oedd ‘llostlydan’ ac yng Nghyfraith Hywel rhoid gwerth uchel i'w groen - 120 ceiniog o'i gymharu â 24 ceiniog am groen bele goed, blaidd a llwynog - oedd efallai yn dynodi ei brinder. Dywed Gerallt Gymro yn 1188 mai Afon Teifi oedd ei gynefin olaf ym Mhrydain. Tebyg iddo ddarfod yng Nghymru yn y 13g. Yr Afanc oedd enw'r anghenfil dŵr chwedlonol dynnwyd o Lyn yr Afanc yn Afon Lledr, Betws-y-coed gan yr Ychain Banog a'i lusgo hyd at Lyn y Ffynnon Las.

Ymlediad

golygu

Darllen bore ddoe (18 Mehefin 2010) yn ein papur dyddiol, fod y llostlydan a fu bron â diflannu oddi allan i ran afon Rhône wedi croesi i afon Loire a bellach wedi cyrraedd ei haber yng nghyffiniau Nantes.[1]

Prosiect Afancod Cymru

golygu

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran y pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru fel rhan o’n strategaeth Tirweddau Byw. Eu gobaith ydy ailgyflwyno afancod i Gymru dan reolaeth.[2]

Afancod enwog

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Wmffra Wmffras, Llydaw ym Mwletin Llen Natur rhif 30
  2. "Dod ag afancod yn ôl i Gymru!", Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru; adalwyd 21 Chwefror 2021
Chwiliwch am afanc
yn Wiciadur.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).


  Eginyn erthygl sydd uchod am gnofil. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Dolenni allanol

golygu