Cassiopeia (cytser)

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:47, 17 Chwefror 2009 gan JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)

Cytser yn hemisffer y Gogledd yw Cassiopeia. Mae'n gorwedd yng nghanol y Llwybr Llaethog bron, yn agos i Seren y Gogledd. Ei gymdogion yw Cepheus, Perseus ac Andromeda. Mae'n un o'r cytserau mwyaf disglair a hawdd i'w adnabod. Mae'r pum seren ddisgleiriaf yn ffurfio siâp 'W' yn yr awyr. Mae'n cynnwys gweddillion dau supernova diweddar, Seren Tycho a Cassiopeia A, sy'n ffynhonell signalau radio gref.

Lleoliad Cassiopeia

Fe'i enwir ar ôl Cassiopeia, mam Andromeda a gwraig Cepheus brenin Ethiopia.